Iaith Dde Indiaidd a siaredir yn bennaf yn nhalaith Karnataka yw Kannada. Fel Tamil, Telugu a Malayalam, mae'n un o ieithoedd brodorol Drafidaidd De India sy ddim yn perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae tua 50 miliwn o siaradwyr yr iaith yn Karnataka. Fe'i siaredir hefyd mewn rhannau o Andhra Pradesh, Maharashtra, Tamil Nadu, Goa a Kerala.

Arwydd ffordd yn yr iaith Kannada
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.