Katharine Graham
Cyhoeddwr papur newydd o'r Unol Daleithiau oedd Katharine Meyer Graham (Mehefin 16, 1917 – 17 Gorffennaf, 2001). Hi oedd yn arwain papur newydd ei theulu, The Washington Post, o 1963 i 1991. Hi hefyd oedd wrth y llyw ar adeg adrodd ar sgandal Watergate, a arweiniodd yn y pen draw at ymddiswyddiad yr Arlywydd Richard Nixon . Hi oedd cyhoeddwr benywaidd cyntaf yr 20fed ganrif i gyhoeddi un o'r prif bapurau newydd Americanaidd, a hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i fwrdd yr Associated Press. Roedd hunangofiant Graham, Personal History, wedi ennill Gwobr Pulitzer yn 1998.
Katharine Graham | |
---|---|
Ganwyd | Katharine Meyer 16 Mehefin 1917 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 17 Gorffennaf 2001 o syrthio o geffyl Boise |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyhoeddwr, llenor, newyddiadurwr, person busnes, golygydd, casglwr celf |
Tad | Eugene Meyer |
Mam | Agnes E. Meyer |
Priod | Phil Graham |
Plant | Lally Weymouth, Donald E. Graham |
Gwobr/au | Gwobr Elijah Parish Lovejoy, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Gwobr Four Freedoms, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Arwyr Rhyddid, Sefydliad Rhyngwladol Gweisg y Byd, Gwobr Dewrder mewn Newyddiaduraeth, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal, Walter Cronkite Award for Excellence in Journalism |
Ei Bywyd cynnar
golyguGaned Katharine Meyer yn 1917 i deulu cyfoethog yn Ninas Efrog Newydd, sef i Agnes Elizabeth (née Ernst) ac Eugene Meyer . [1] Roedd ei thad yn gweithio ym myd cyllid ac, yn ddiweddarach, daeth yn Gadeirydd y Gronfa Ffederal . Ei thaid oedd Marc Eugene Meyer, a'i hen daid oedd y rabbi Joseph Newmark . Prynodd ei thad The Washington Post ym 1933 mewn arwerthiant methdalu. Roedd ei mam yn berson deallus a bohemaidd, yn hoff o gelf, ac yn gweithredu'n wleidyddol gyda'r Blaid Weriniaethol. Roedd ei mam hefyd yn ymwneud â phobl mor amrywiol ag Auguste Rodin, Marie Curie, Thomas Mann, Albert Einstein, Eleanor Roosevelt, John Dewey [2] a Saul Alinsky . [3] [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Baugess, James S.; DeBolt, Abbe Allen (2012). Encyclopedia of the Sixties: A Decade of Culture and Counterculture Volume 1. Santa Barbara: Greenwood. t. 259. ISBN 978-0-31332-945-6.
- ↑ Carol Felsenthal (1993). Power, Privilege and the Post: The Katharine Graham Story. Seven Stories Press. t. 19. ISBN 978-1-60980-290-5.
- ↑ Carol Felsenthal (1993). Power, Privilege and the Post: The Katharine Graham Story. Seven Stories Press. t. 127. ISBN 978-1-60980-290-5.
- ↑ Sanford D. Horwitt (1989). Let Them Call Me Rebel: Saul Alinsky, His Life and Legacy. Knopf. t. 195. ISBN 978-0-394-57243-7.