Kenny Morgans
Pêl-droediwr Cymreig oedd Kenneth Godfrey Morgans (16 Mawrth 1939 – 18 Tachwedd 2012).
Kenny Morgans | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1939 Abertawe |
Bu farw | 18 Tachwedd 2012 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Manchester United F.C., C.P.D. Tref Y Barri, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Tref Cwmbrân, C.P.D. Sir Casnewydd |
Safle | blaenwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Fe'i ganwyd yn Abertawe a phan adawodd yr ysgol ym 1955, fe arwyddodd i Manchester United. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United yn nhymor 1957-58. Roedd yn bresennol yn ystod trychineb awyr Munich ble daeth yn gaeth dan un o olwynion yr awyren am tua phum awr cyn cael ei achub.[1]
Gwnaeth 23 ymddangosiad dros Manchester United cyn gadael y clwb yn 1961.[2] Aeth ymlaen i chwarae dros Abertawe a Newport County cyn ymddeol yn 1967.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Marw un o Gymry Munich. Golwg360 (19 Tachwedd 2012).
- ↑ Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw. BBC (19 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.