Band roc o Gymru oedd Kentucky AFC.

Kentucky AFC
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Sefydlwyd Kentucky AFC yn 2001 wedi iddynt newid eu henw o Cacen Ŵy Experience.

Yn 2003 recordiwyd y sengl Bodlon, a phrofodd hon i fod yn arwyddgan y band am flynyddoedd wedyn. Yn hwyrach y flwyddyn honno rhyddhawyd y sengl dwbl-A Outlaw/11. Dyma'r flwyddyn pan wnaeth llafurio'r band ddwyn ffrwyth.

Llwyddodd y Kentucky AFC i ennill pum gwobr yng ngwobrau RAP Radio Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys y Sesiwn Gorau, Newydd-ddyfodiad Gorau, Sengl Gorau (ar gyfer Outlaw/11 a recordiwyd gan gynhyrchydd Super Furry Animals, Gorwel Owen), Band Byw Gorau a Band y Flwyddyn.[1]

Hefyd, enillodd y band ddwy wobr yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru am y record gorau yn yr iaith Gymraeg (Bodlon) a Newydd-ddyfodiad Gorau Cymraeg.

Derbyniodd eu halbwm hir disgwyliedig, Kentucky AFC a rhyddhawyd yn 2004 gan Boobytrap Records, adolygiadau gwych.[1] Enwebwyd y band ymysg Goldie Lookin Chain, Lostprophets a Super Furry Animals yng ngwobrau'r Ffatri Bop am y Grŵp Orau o Gymru.

Yn haf 2007, ar ôl chwe blynedd o greu cerddoriaeth flaengar gyson, cymryd rhan mewn nifer o sesiynau gan gynnwys cyrraedd Last Ever Festive Fifty yr arwr John Peel, a llwyddo i lwyfannu sioeau byw tanllyd ac weithiau anrhagweladwy, cyhoeddodd Kentucky AFC eu bod nhw'n rhoi'r ffidl yn y to drwy ryddhau'r albwm Fnord a chynnal taith ffarwel. Crewyd ffilm am y daith olaf gan Angharad Griffiths sydd i'w weld ar y we.

Parhaodd aelodau Kentucky AFC yn weithredol mewn amryw o brosiectau cerddorol eraill.

Aeth Huw Owen ymlaen i sefydlu ei hun fel Mr Huw, perfformiodd Endaf Roberts yn perfformio fel Endaf Presli, ac aeth Gethin Evans ymlaen i fod yn aelod o'r band hip hop Genod Droog a ddaeth i ben yn 2008.

Disgyddiaeth golygu

  • "Bodlon" - Sengl CD (Recordiau R-bennig, R-BEN 062, 2003)
  • "Outlaw" - Sengl CD (Remote Control Records, REMOTE004, 2003)
  • Iasobe? - EP CD (Boobytrap Records ‎– BOOB REC012CD)
  • Kentucky AFC - Albwm (Boobytrap Records, 2004)

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  BBC Cymru - Cerddoriaeth - Kentucky AFC. BBC Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.