King Tubby
Roedd King Tubby (28 Ionawr 1941 – 6 Chwefror 1989) yn gynhyrchydd a pheiriannydd sain Reggae.[1] Cafodd ei eni yn Kingston (Jamaica) fel Osbourne Ruddock.
King Tubby | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1941 Kingston |
Bu farw | 6 Chwefror 1989 Kingston |
Label recordio | Trojan Records |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, peiriannydd sain, cerddor |
Arddull | reggae, dub music |
Cafodd King Tubby ddylanwad mawr ar ddatblygiad cerddoriaeth Jamaica yn y 1970au ac enillodd dilyniant mawr gyda ffans Reggae ar draws y byd.
Gyda Lee "Scratch" Perry, mae King Tubby yn cael y clod am fod un o'r cyntaf i ail-gymysgu traciau caneuon i fersiynau "Dub". Mae fersiwn "Dub" o drac cerddorol fel arfer heb lais y prif ganwr, mae lefelau sŵn rhythmau’r bâs a drymiau'n cael eu codi'n llawer uwch ac mae effeithiau atsain a "reverb" yn cael eu hychwenegu. Daeth ail-gymysgu traciau caneuon - y "remix" - yn rhan hanfodol o gynhyrchu cerddoriaeth electronig dawns ar draws y byd o'r 1980au ymlaen. [2]
Meistr y Dub
golyguRoedd Ruddock wrth ei fodd yn chwarae, creu a gwella offer electronig a gweithiodd fel atgyweiriwr radio ar ddiwedd y 1950au. Dechreuodd drwsio systemau sain o amgylch Kingston, roedd galw mawr am ei sgiliau wrth i gangiau'r wahanol systemau sain yn aml yn ceisio malu offer sain eu cystadleuwyr.
Sefydlodd ei system sain Tubby's Home Town Hi-Fi. Wrth i'r system sain ddod yn boblgaidd, cafodd King Tubby gyfle i weithio fel torrwr platiau i wneud disgiau'r recordiau i Treasure Isle stiwdio Duke Reid prif gynhyrchydd recordiau Jamaica y cyfnod. Dyma le dechreuodd King Tubby gymryd y syniad o ail-gymysgu i lefel hollol newydd.
Roedd y rhan fwyaf o recordiau sengl 45 Jamaica'r cyfnod yn cynnwys fersiwn offerynnol o'r brif gân ar yr ochr B, y “fersiwn”. Pan ofynnwyd i King Tubby gynhyrchu fersiynau o ganeuon ar gyfer y Toasters sef MCs system sain, dechreuodd droi y traciau'n ddarnau hollol newydd o gerddoriaeth trwy newid y pwyslais ar yr offerynnau, ychwanegu/tynnu synau ac effeithiau arbennig. Yn ôl y canwr Mikey Dread, roedd King Tubby yn deall sain yn wyddonol oherwydd ei fod yn gwybod sut roedd y 'circuits' yn gweithio a beth oedd electroneg yn ei wneud.[3]
Ym 1971, agorodd y King Tubby ei stiwdio ei hun gan ddefnyddiodd cymysgydd 4 trac i greu fersiynau "dub" o ganeuon gwreiddiol trwy ei ddesg gymysgu bwrpasol.
Roedd Tubby yn aml yn trawsnewid y caneuon poblogaidd roedd prif gynhyrchwyr Jamaica yn rhoi iddo i'r pwynt lle roedd bron yn amhosibl adnabod y fersiwn wreiddiol. Yn 1973, ychwanegodd King Tubby bwrdd cymysgydd 4 trac ac adeiladodd fwth canu yn ei stiwdio er mwyn recordio traciau llais ar y tapiau offerynnol.
Roedd y cynhyrchydd Bunny Lee yn cadw King Tubby yn arbennig o brysur gyda llif cyson o senglau i'w hailgymysgu. Mae detholiad o'r rhain i'w gweld yn yr albymau arloesol Dub From the Roots a King Tubby Meets the Aggrovators.
Cydweithrediad llwyddiannus arall oedd yr un gyda Vivian Jackson oedd yn perfformio o dan yr enw "Yabby U", gydag albymau fel King Tubby's Prophecy of Dub a Wall of Jerusalem.
Roedd Augustus Pablo hefyd yn gleient amlwg: yn ail-gymysgu cerddoriaeth ar gyfer ei label Rockers, hefyd rhyddhawyd y ddau albymau nodedig fel 'King Tubbys Meets Rockers Uptown. Dyma rai yn unig o'r nifer o gydweithrediadau llwyddiannus rhwng King Tubby ac artistiaid Jamaica ddi-rif. Trwy gydol ei yrfa lansiodd King Tubby wahanol labeli recordio: Firehouse, Waterhouse, Kingston II, a Taurus.
Erbyn diwedd y 1970au, roedd King Tubby wedi troi ei sylw at hyfforddi cenhedlaeth newydd o beirianwyr a chynhyrchwyr, gan gynnwys Scientist a'r Jammy (ddaeth yn 'King' Jammy ar ôl marwolaeth ei fentor). Erbyn canol y 1980au, roedd King Tubby wedi symud i gynhyrchu, ac wedi rhyddhau senglau gan gantorion fel Sugar Minott, Anthony Red Rose, Chaka Demus a Johnny Clarke.
Ar 6 Chwefror 1989, saethwyd a lladdwyd y King Tubby y tu allan i'w gartref yn Kingston - fel canlyniad i ladrad ar y stryd. [4]
Ymhlith y nifer fawr o deyrngedau i King Tubby ar draws y byd yn dilyn ei lofruddiaeth, cynhaliwyd digwyddiad diwrnod o hyd yn chwarae ei gerddoriaeth yn Nafarn yr Albert yng Nghaernarfon. Cynhyrchwyd y fanzine "Tubbzine" fel teyrnged iddo ar gyfer y digwyddiad .
Discograffi
golyguGweithiodd King Tubby ar ganodd (o bosib miloedd) o draciau yn bennaf ar senglau 45 Jamaica. Mae'r rhestr ganlynol yn ddetholiad o rhai o'r albymau sydd wedi'u bod ar gael tu allan i Jamaica
Gydag Augustus Pablo
golygu- Ital Dub (1974, Starapple/Trojan Records)
- King Tubbys Meets Rockers Uptown (1976, Yard Music/Clocktower Records)
- Original Rockers (1979, Rockers International/Greensleeves Records/Shanachie Records)
- Rockers Meets King Tubby in a Firehouse' (1980, Yard Music/Shanachie)
Gyda The Aggrovators
golygu- Shalom Dub (1975, Klik)
- Dubbing in the Backyard (1982, Black Music)
Gyda Prince Jammy
golygu- His Majesty's Dub|His Majestys Dub (1983, Sky Juice)
Gyda Prince Jammy a Scientist
golygu- First, Second and Third Generation of Dub (1981, KG Imperial)
Gyda Lee "Scratch" Perry
golygu- Upsetters - Dub Blackboard Jungle (1973, Upsetter Records)
- King Tubby Meets the Upsetter at the Grass Roots of Dub (1974, Fay Music/Total Sounds)
Gyda Bunny Lee
golygu- Dub from the Roots (Total Sounds, 1974, Total Sounds)
- Creation of Dub (1975, Total Sounds)
- The Roots of Dub (a.k.a. Presents the Roots of Dub) (1975, Grounation/Total Sounds)
Gydag Yabby U
golygu- King Tubby Meets Vivian Jackson (a.k.a. Chant Down Babylon a Walls Of Jerusalem) (1976, Prophet)
- King Tubby's Prophecy of Dub (a.k.a. Prophecy of Dub) (1976, Prophets)
Cydweithio arall
golygu- Niney the Observer – Dubbing with the Observer (1975, Observer/Total Sounds)
- Harry Mudie – In Dub Conference Volumes One, Two & Three (1975, 1977 & 1978 Moodisc Records)
- Larry Marshall – Marshall (1975, Marshall/Java Record)
- Roots Radics – Dangerous Dub (1981, Copasetic)
- Waterhouse Posse – King Tubby the Dubmaster with the Waterhouse Posse (1983, Vista Sounds)
- Sly & Robbie – Sly and Robbie Meet King Tubby (1984, Culture Press)
Amlgyfrannog
golygu- King Tubby & The Aggrovators – Dub Jackpot (1990, Attack)
- King Tubby & Friends – Dub Gone Crazy - The Evolution of Dub at King Tubby's 1975-1979 (1994, Blood & Fire)
- King Tubby & The Aggrovators & Bunny Lee – Bionic Dub (1995, Lagoon)
- King Tubby & The Aggrovators & Bunny Lee – Straight to I Roy Head 1973–1977 (1995, Lagoon)
- King Tubby & Scientist – At Dub Station (1996, Burning Sounds)
- King Tubby & Scientist – In a World of Dub (1996, Burning Sounds)
- King Tubby & Glen Brown – Termination Dub (1973-79) (1996, Blood & Fire)
- King Tubby & Soul Syndicate – Freedom Sounds In Dub (1996, Blood & Fire)
- King Tubby & Friends - Crucial Dub (2000, Delta)
- King Tubby & The Aggrovators – Foundation of Dub (2001, Trojan)
- King Tubby – Dub Fever (2002, Music Digital)
- African Brothers Meet King Tubby – In Dub (2005, Nature Sounds)
- King Tubby - Hometown Hi-Fi (Dubplate Specials 1975-1979) (2013, Jamaican Recordings)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stratton, Jeff (3 March 2005). "Dub from the Roots". Miami New Times.
- ↑ Colin Larkin, ed. (1992). The Guinness Encyclopedia of Popular Music (First ed.). Guinness Publishing. pp. 1380/1. ISBN 0-85112-939-0.
- ↑ https://enkismusicrecords.com/king-tubby-biography-sound-engineer-producer/
- ↑ Thompson, Dave (2002) Reggae & Caribbean Music, Backbeat Books, ISBN 0-87930-655-6, pp. 138–141