Kit Carson
Milwr Americanaidd oedd Christopher Houston "Kit" Carson (24 Rhagfyr 1809 – 23 Mai 1868) a wasanaethodd ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America. Cafodd Carson ei eni yn Swydd Madison, Kentucky, yn fab milwr.
Kit Carson | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1809 Richmond |
Bu farw | 23 Mai 1868 Fort Lyon |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | fforiwr, swyddog milwrol |
llofnod | |
O ganlyniad i'w sgiliau fel coedwigwr a dyn y cefn gwlad a'i wybodaeth o natur a'r Americanwyr Brodorol, daeth Carson yn destun nifer o straeon gwerin Americanaidd.[1] Mae cymeriad sy'n seiliedig arno yn ymddangos yn y nofel I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 95 [Carson, Kit].