Llenor Cymraeg oedd Eirug Wyn (11 Rhagfyr 195025 Ebrill 2004).

Eirug Wyn
Ganwyd11 Rhagfyr 1950 Edit this on Wikidata
Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 2004 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
Am y gwleidydd Plaid Cymru gweler Eurig Wyn.

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair Sir Drefaldwyn (Powys) yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Yn 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen Arfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail. Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.

Yn 1969 astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd.. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon yn 1977 ac wedyn ym Mangor [1].

Gwaith llenyddol golygu

Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.

Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derec Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derec (hunangofiant).

Llyfryddiaeth golygu

Ffynonellau golygu

  1. Cofio Eirug Gol: Emyr Llewelyn Gruffudd Cyh:Y Lolfa 2004