Kitty Marion
Ffeminist o'r Almaen a Loegr oedd Kitty Marion (12 Mawrth 1871 - 9 Hydref 1944) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét.[1]
Kitty Marion | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1871 Rietberg |
Bu farw | 9 Hydref 1944 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen Lloegr |
Galwedigaeth | actor, swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ganwyd Katherina Maria Schäfer yn Rietberg, yr Almaen a bu farw yn Ninas Efrog Newydd. [2][3]. Daeth yn adnabyddus yn y maes am sefyll dros hawliau perfformwyr benywaidd yn erbyn asiantau, llygredd, dros atal cenhedlu a thros amodau gwaith gwell.
Magwraeth
golyguBu farw mam Katherina Maria Schafer o'r ddarfodedigaeth (tuberculosis) pan oedd Katherina yn ddwy oed, gan ei gadaelyng ngofal ei thad. Bedair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn chwech oed, bu farw ei llys-fam o'r ddarfodedigaeth hefyd. Credir i'w thad, nad yw ei enw'n hysbys, gam-drin Marion gan fod ganddi wallt coch. Pan oedd Marion yn bymtheg oed, fe’i hanfonwyd gan ei thad i fyw gyda’i modryb yn Lloegr. Symudodd i Lundain ym 1886 pan oedd hi'n bymtheg oed, a thyfodd i fân amlygrwydd pan ganodd mewn neuaddau cerdd ledled y Deyrnas Gyfunol ar ddiwedd y 19g.
Hawliau merched
golyguYmunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU) ym 1908, a bu'n gwerthu eu papur newydd Votes for Women a daeth yn swffragét amlwg yn y Deyrnas Gyfunol am gymryd rhan mewn protestiadau aflonyddwch sifil gan gynnwys terfysgoedd a llosgi bwriadol. O ganlyniad, arestiwyd Marion lawer gwaith ac mae'n adnabyddus am iddi ddioddef cael ei gorfodi i fwyta, yn ystod ei streic newyn yn y carchar, 232 o weithiau. Dyfynnir ei bod yn dweud “nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio’r teimlad annioddefol ac erchyll (o orfodi bwyd i fewn i'r stumog.” [4]
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ymfudodd i Unol Daleithiau America, ac yno ymunodd â thîm Margaret Sanger a oedd yn cyhoeddi gwybodaeth ar reoli cenhedlu.
Er iddi ddefnyddio ei dycnwch a’i llais uchel i gael pobl i roi sylw i’w hachos, ni ddefnyddiodd drais cymaint â phan oedd yn byw yn y Derynas Gyfunol, er iddi gael ei harestio lawer gwaith am ymgyrchu dros atal cenehedlu.[1]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [5]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Woodworth, Christine. "The Company She Kept: The Radical Activism of Actress Kitty Marion from Piccadilly Circus to Times Square.". Theatre History Studies 32, 2012: 80–92,252.
- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Saesneg gwreiddiol: “there are no words to describe the horrible revolting sensation.”
- ↑ Galwedigaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/