Konk-Kerne
Mae Konk-Kerne (Ffrangeg: Concarneau) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Saint-Yvi, La Forêt-Fouesnant, Melgven, Trégunc ac mae ganddi boblogaeth o tua 20,607 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Concarneau |
Poblogaeth | 20,607 |
Pennaeth llywodraeth | André Fidelin |
Gefeilldref/i | Bielefeld, Pennsans |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 41.08 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 106 metr |
Yn ffinio gyda | Sant-Ivi, Ar Forest-Fouenant, Mêlwenn, Tregon |
Cyfesurynnau | 47.8753°N 3.9189°W |
Cod post | 29900 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Concarneau |
Pennaeth y Llywodraeth | André Fidelin |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae gan y dref dwy adran benodol: y dref fodern ar y tir mawr a'r hen dref gaerog ganoloesol. Mae'r hen dref yn sefyll yng nghanol ynys oddi ar yr harbwr. Yn hanesyddol, bu'r hen dref yn ganolfan adeiladu llongau, ond bellach mae'n gartref i lawer o dai bwyta a siopau i ymwelwyr a thwristiaid.
Poblogaeth
golyguCysylltiadau Rhyngwladol
golyguMae Konk-Kerne wedi'i gefeillio â:
Digwyddiadau
golyguYn Awst bydd Konk-Kerne yn dathlu Gŵyl y Rhwydi Glas, sy'n cael ei enwi er clod y rhwyd las traddodiadol a arferid ei ddefnyddio gan fflyd bysgota'r ardal. Mae'r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant Llydewig a Pan-geltaidd. Gŵyl y Rhwydi Glas yw un o'r gwyliau hynaf a mwyaf o'r fath yn Llydaw gyda dros fil o gyfranogwyr mewn gwisg draddodiadol. Yn 2005, dathlwyd canmlwyddiant yr ŵyl.
Llenyddiaeth
golyguKonk-Kerne oedd lleoliad y nofel Maigret a'r Cŵn Melyn (1931) gan yr awdur dirgelwch o Wlad Belg Georges Simenon
Henebion a Safleoedd o ddiddordeb
golyguYr hen dref
golygu-
Golwg o'r awyr
-
Porth mynediad i'r hen dref
-
Clochdy'r hen dref
-
Tŷ'r llywodraethwr
-
Sgwar y ffynnon
Amgueddfa Pysgota
golygu-
Mynedfa
-
Peiriant gwnio hwyliau
-
Ystafell arddangos
-
"Hémérica" hen dreillong
Arlunwyr a darluniau
golyguMae nifer o arlunwyr amlwg wedi eu hysbrydoli gan Konk-Kerne a'r fro gan gynnwys Colin Campbell Cooper, Paul Signac, Michel Bouquet, Peder Severin Krøyer, William Lamb Picknell, Howard Russell Butler a llawer eraill
-
Colin Campbell Cooper : The Brittany Coastline
-
Paul Signac : Concarneau, Opus 221 (Adagio) (1891)
-
Michel Bouquet : Le Vétéran naviguant dans les rouleaux près de Concarneau (1861)
-
Peder Severin Krøyer : Sardinerie à Concarneau (1879)
-
William Lamb Picknell : La route de Concarneau (1880)
-
Howard Russell Butler : Ramassseurs de varech (1886)