Koto
Mae'r koto yn offeryn cerdd Siapaneaidd. Offeryn tannau sy'n perthyn i deulu'r zither ydyw. Mae gan y blwch sain cul hir (tua 2m fel rheol) 13 o dannau. Mae'r canwr, sy'n eistedd ar ei sodlau, yn ei ganu â phlectrwm sydd yn rhwym i ddau fys a bawd ei law dde.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/76/Koto_by_Fumie_Hihara_2016.png/300px-Koto_by_Fumie_Hihara_2016.png)