LLE 129 Hindenburg

Llong awyr Almaenig oedd yr LZ 129 Hindenburg (Almaeneg: Deutsches Luftschiff Zeppelin #129; Rhif cofrestru: D-LZ 129). Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.

LLE 129 Hindenburg
Enghraifft o'r canlynolrigid airship Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Mai 1937 Edit this on Wikidata
PerchennogDeutsche Zeppelin-Reederei Edit this on Wikidata
Map
GwneuthurwrLuftschiffbau Zeppelin Edit this on Wikidata
Hyd245 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Hindenburg — eiliadau ar ôl iddi fynd ar dân, 6 Mai 1937.
Ar fwrdd y llong awyr: y lolfa gyfforddus.

Hon oedd prif long awyr y cwmni, y fwyaf i hedfan erioed o ran cyfaint. Hedfanodd o Fawrth 1936 tan iddi fynd ar dân ar 6 Mai 1937 ar ddiwedd ei thaith traws-Iwerydd. Bu farw 36 o bobl yn y ddamwain wrth iddi lanio yn y Lakehurst Naval Air Station yn New Jersey.

Fe'i cynlluniwyd i ddefnyddio nwy heliwm i'w lenwi a'i godi, gan ei fod yn saffach na heidrogen ond roedd heliwm yn llawer iawn drytach i'w greu yn yr Almaen. Ychydig cyn gorffen ei hadeiladu fe newidiwyd y tanwydd ac aethpwyd am heidrogen.

Llong awyr fasnachol oedd hon a oedd yn cael ei rheoli gan gwmni 'Deutsche Zeppelin Reederei GmBH' (DZR) a sefydlwyd ym Mawrth 1935 gan Hermann Göring er mwyn cynyddu dylanwad y Natsiaid dros y zeppelin.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu