Balŵn ysgafnach nag aer
Dyfais sy'n hedfan, wedi'i wneud gan ddyn ydy balŵn ysgafnach nag aer, balŵn aer cynnes neu balŵn aer poeth.
Delwedd:17. Thüringer Montgolfiade - 35.jpg, Cappadociasunrise.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | aircraft type |
---|---|
Math | Balŵn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 21 Tachwedd 1783, ym Mharis, Ffrainc yr hedfanodd y balŵn cyntaf gyda dyn yn ei yrru, sef Jean-François Pilâtre de Rozier a François Laurent d'Arlandes. Roedd y balŵn wedi ei greu gan y brodyr Montgolfier. Lansiodd yr Almaen sawl teulu o awyrlongau gan gynnwys y Zeppelins; yn 1937 ffrwydrodd yr LZ 129 Hindenburg gan ladd 36 o bobl mewn llong awyr Almaenig. Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.
Ar wahân i aer cynnes, dros y blynyddoedd defnyddiwyd y nwy Hydrogen, ond ers y 1960au, heliwm sy'n cael ei ddefnyddio gan nad yw'n llosgi, ac felly mae'n ddiogelach i'w ddefnyddio.
Ers yr 1990au gellir gwneud balwnau o bob siâp dan haul, gan gynnwys nwyddau megis can Cola neu gi poeth.
Yr enw a roddir i falŵn sydd â gyriant ychwanegol i wynt ydy llong awyr neu awyrlong.