La Catedral
Carchar sy'n edrych lawr dros ddinas Medellín yng Ngholombia yw La Catedral. Cafodd y carchar ei adeiladu i ofynion pennaeth Cartél Medellín, sef Pablo Escobar, o dan gytundeb yn 1991 rhwng Escobar a llywodraeth Colombia lle byddai'n rhaid i Escobar ildio i'r awdurdodau a chael ei garcharu am uchafswm o bum mlynedd, ac na fyddai llywodraeth Colombia yn ei estraddodi i'r Unol Daleithiau. Yn ogystal â chael yr hawl i adeiladu'r carchar i'w ofynion penodol, cafodd Escobar yr hawl hefyd i ddewis y swyddogion diogelwch yn y carchar, a credir iddo ddewis swyddogion oedd yn ffyddlon iddo fe'n unig. Credir hefyd bod y carchar wedi cael ei ddylunio'n fwy i gadw gelynion Escobar allan, a'i amddiffyn rhag ymdrechion i'w ladd, yn hytrach na chadw Escobar yn y carchar.[1]
Math | carchar |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Envigado |
Sir | Medellín |
Gwlad | Colombia |
Cyfesurynnau | 6.1178°N 75.585°W |
Perchnogaeth | Pablo Escobar |
Roedd pobl yn aml yn cyfeirio at y carchar fel "Gwesty Escobar" neu "Glwb Medellín" oherwydd yr holl fwynderau yn yr adeilad. Roedd gan La Catedral gae pêl-droed, tŷ dolis mawr, bar, jacuzzi, a rhaedr. Roedd Escobar hefyd wedi gosod telesgôp yn y carchar er mwyn iddo allu edrych lawr i ddinas Medellín at gartref ei ferch tra roedd yn siarad ar y ffôn gyda hi.
Yn ôl y darlledwr PBS, roedd y llywodraeth yn fodlon troi llygad ddall wrth i Escobar barhau i smyglo cyffuriau, ond daeth y trefniant hwnnw i ben ar ôl honiad bod Escobar wedi arteithio a llofruddio pedwar o'i lefftenantiaid o fewn muriau La Catedral. Penderfynodd llywodraeth Colombia fod yn rhaid iddi symud Escobar i garchar cyffredin, ond gwrthododd Escobar y gorchymyn. Ym mis Gorffennaf 1992, ar ôl blwyddyn a mis o'i ddedfryd, aeth Escobar ar ffo unwaith eto. Gyda Byddin Genedlaethol Colombia yn amgylchynu La Catedral, llwyddodd Escobar i gerdded allan o'r fynedfa yng nghefn y carchar. Fel rhan o'r helfa am Escobar cafodd llu o 600 o ddynion a oedd wedi cael eu hyfforddi'n arbennig gan Lu Delta yr Unol Daleithiau, o'r enw Search Bloc o dan arweiniad y Cyrnol Hugo Martinez, eu defnyddio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Cran a Stephanie Tepper (25 Mawrth 1997). "The Godfather of Cocaine". Frontline (#1309). PBS.