La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)
Sengl gan y Manic Street Preachers yw "La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)", a ryddhawyd fel ail sengl yr albwm Gold Against the Soul (1993).
Enghraifft o'r canlynol | sengl |
---|---|
Rhan o | Gold Against the Soul |
Dyddiad cyhoeddi | 1993 |
Label recordio | Columbia Records |
Genre | roc meddal |
Rhagflaenwyd gan | From Despair to Where |
Olynwyd gan | Roses in the Hospital |
Dyfyniad o eiriau'r arlunydd Vincent Van Gogh ar ei wely angau yw'r Ffrangeg yn nheitl y gân, ac o gyfieithu'r geiriau yn fras golygant "Mae'r tristwch yn parhau". Y teitl uchod yw unig eiriau'r gytgan. Mae'r gân yn trafod y modd mae'r gymdeithas yn gyffredinol yn diystyru hen filwyr ac yn anghofio amdanynt o ddydd i ddydd ond yn gwneud pantomeim ohonynt unwaith y flwyddyn.
Cyrhaeddodd y sengl rif 22 yn siart y senglau ar 31 Gorffennaf 1993.
Cadarnhawyd poblogrwydd y gân wrth ymddangosiad La Tristesse Durera ar yr albwm Forever Delayed, casgliad o ganeuon gorau'r band.