Labia
Gweflau ar ymyl gwain neu gont merch ydy labia. Gair lluosog ydyw; labiwm ydy'r unigol ond pur anaml y caiff y gair yma ei ddefnyddio. Mae'n dod o'r gair Lladin am wefus neu wefl. Mae'r labia yn rhan o'r fwlfa.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/21/Vulva_und_Scheidenvorhof.jpg/220px-Vulva_und_Scheidenvorhof.jpg)
Maent i'w gweld o bopty i hollt Gwener ac maent wedi'u gwneud o feinwe a chroen. Dônt at ei gilydd jest o dan y cnwc Gwener (tu blaen y corff) gan orchuddio'r clitoris yn rhanol neu'n gyfan.
Mae'r rhan fwyaf o bobloedd y byd yn eu gorchuddio gyda dillad megis nicyrs, pais neu sgert. Er hyn, ceir rhai merched sy'n rhoi pindlws drwy'r croen.