Lairig Ghru
Bwlch ym mynyddoedd y Cairngorms yn yr Alban yw'r Lairig Ghru. O'r de, gellir cyrraedd y bwlch o Braemar trwy Glen Lui, ag o Blair Atholl trwy Glen Tilt. O'r gogledd, gellir cyrraedd ato trwy Glen More ac o Aviemore.
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cairngorms |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Swydd Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Allt na Lairig Ghru |
Cyfesurynnau | 57.0908°N 3.6939°W |
Yn hanesyddol, bu'n lwybr pwysig trwy'r mynyddoedd a ddefnyddid gan y porthmyn ac eraill. Erbyn hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i gerddwyr. Mae tua 43 km o hyd o Aviemore i Braemar.