Braeriach
Braeriach, Gaeleg yr Alban: Bràigh Riabhach neu Am Bràigh Riabhach ydy'r ail fynydd uchaf ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN953999 a'r trydydd mynydd uchaf yng ngwledydd Prydain ar ôl Ben Nevis a Ben Macdhui.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol y Cairngorms |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,296 metr |
Cyfesurynnau | 57.078298°N 3.728389°W |
Cod OS | NN9532899906 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 461 metr |
Rhiant gopa | Ben Macdhui |
Cadwyn fynydd | Cairngorms |
Yng nghwm Garbh Coire Mor ar y mynydd, dim ond pum gwaith y mae'r eira wedi dadmer yn llwyr mewn canrif; yn 1933, 1959, 1996, 2003 a 2006.
Ceir carnedd ar y copa. Mae Afon Dee (Swydd Aberdeen) yn tarddu ar y mynydd.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'nMarilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- [295316 Lleoliad ar wefan Get-a-map]