Mae Laura O'Sullivan (ganwyd 23 Awst 1991) yn bêl-droediwr Cymreig sy'n gôl-geidwad i dîm ferched Cyncoed a thîm cenedlaethol Cymru.

Laura O'Sullivan
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1991-08-23) 23 Awst 1991 (32 oed)
SafleGôl-geidwad
Y Clwb
Clwb presennolMerched Cyncoed
Rhif1
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2011–2017Merched Dinas Caerdydd
2017Yeovil Town0(0)
2017–Merched Cyncoed8(0)
Tîm Cenedlaethol
2016–Cymru
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Dechreuodd ei gyrfa gyda Dinas Caerdydd wedi troi at gôl-geidwadaeth yn 2015. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol cyntaf dros Gymru yn 2016 yn chware yng nghystadleuaeth Cwpan Merched Ciprys.

Gyrfa clwb golygu

Yn hwyrddyfodiad i gamp pêl-droed, prin fu O'Sullivan yn chware yn ei arddegau oherwydd anawsterau teithio. Rhoddodd y gorau i chware pêl-droed yn gyfan gwbl am gyfnod, rhywbeth y bu hi'n difaru wedyn. Wedi dechrau chware yn rheolaidd eto yn 2011 dechreuodd O'Sullivan fel amddiffynnwr yn chware i dîm merched Dinas Caerdydd. Gan ei fod wedi llenwi fel gôl-geidwad wrth i'r tîm gael trafferth cadw gôl-geidwad rheolaidd penderfynodd newid ei safle.[1]. Ym mis Rhagfyr 2014 daeth yn gôl-geidwad llawn amser, ac wedi gwneud gwaith da i'r ail dîm cafodd ei dewis i'r tîm cyntaf. Yn ei thymor cyntaf sefydlodd ei hun fel y dewis cyntaf i chware yn y gôl. Ar ddiwedd tymor 2014-15 enillodd wobr yr hyfforddwr i Chwaraewr y Flwyddyn[1][2].

Ym mis Medi 2017 ymunodd O'Sullivan a'i chyd chwaraewr rhyngwladol Cymreig Hannah Miles a thîm FA WSL1, Yeovil Town.[3]

Gyrfa ryngwladol golygu

Roedd O'Sullivan wedi cael ei galw i wersylloedd hyfforddi'r garfan ar ddau achlysur cyn iddi cael ei dewis am y tro cyntaf fel aelod o dîm cyntaf Cymru. Dewisodd Jayne Ludlow, rheolwr Cymru O'Sullivan fel y golwr ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Ciprys ar 2 Mawrth 2016 yn erbyn y Ffindir. Bu'r gêm yn un gyfartal gyda'r naill dîm a'r llall yn sgorio dwy gôl yr un.[1][4] Chwaraeodd yn y ddwy gêm arall yng ngrŵp Cymru o'r gystadleuaeth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac yn erbyn Gwlad Pwyl. Methodd tîm Cymru i gyrraedd tu hwnt i'r gemau grŵp.[1]

Ym mis Hydref 2017, cafodd ei henwi'n Peldroediwr Benywaidd Cymreig y Flwyddyn.[5][6] Yn ystod ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Merched y Byd 2019 llwyddodd i gadw llechen lân am bum gêm yn olynol. Wedi gêm 0-0 Cymru yn erbyn Lloegr ar 6 Ebrill 2018 enwyd O'Sullivan yn seren y gêm ar ôl ymdrech arwrol i rwystro'r Saeson rhag sgorio[7].

Anrhydeddau golygu

  • Chwarewr y Flwyddyn Clwb Merched Caerdydd – enwebiad yr Hyfforddwr 2014-2015.[2]
  • Peldroediwr Benywaidd Cymreig y Flwyddyn [6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Matt Badcock (20 March 2016). "It's serious now for the Wales No.1". The Football League Paper. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. 2.0 2.1 Sian Matheson (18 June 2015). "The story of how a Cardiff carnival led to the creation of one of Wales' most successful women's football sides". WalesOnline. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. "Yeovil Town Ladies: Wales' Laura O'Sullivan & Hannah Miles sign for WSL 1 club". BBC Sport. 18 September 2017. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. "Wales and Finland draw thriller in the Cyprus Women's Cup". Football Association of Wales. 2 March 2016. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. Wilf Frith (3 October 2017). "Laura O'Sullivan Wales Player Of The Year". She Kicks. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. 6.0 6.1 "Chris Gunter: Reading defender beats Gareth Bale to Wales player of year award". BBC Sport. 2 October 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-03. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. "England Women 0-0 Wales Women: Goalkeeper Laura O'Sullivan tames Lionesses in crucial World Cup qualifier". Wales Online. 6 Ebrill 2018. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |access-date= (help)