Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru

Mae tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru (Saesneg: Wales women's national football team) yn cynrychioli Cymru yn y byd pêl-droed i ferched ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Mae'r FAW yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol merched Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Roedd tîm yn cynrychioli Cymru eisoes wedi chwarae ym Mhencampwriaeth answyddogol Ewrop yn Rimini, Yr Eidal ym 1979, gan orffen ar waelod grŵp oedd yn cynnwys Yr Iseldiroedd a Sweden[1]. ond ni chafodd Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru eu mabwysiadu'n swyddogol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru tan 1992[2]. Chwaraewyd eu gêm swyddogol gyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ ym Mhort Talbot ar 6 Medi 1993.

Trefnwyd Pencampwriaeth Ewrop i Ferched gan UEFA am y tro cyntaf ym 1984, ond gan nad oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod tîm merched Cymru hyd nes 1992, ni chafwyd gwahoddiad[3]. Cafodd Cymru gystadlu am y tro cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop i Ferched 1995 [4].

Chwaraewyr Nodedig golygu

Ymysg chwaraewyr mwyaf nodedig ac adnabyddus y tîm mae Jess Fishlock o Gaerdydd. Hi oedd y chwaraewr cyntaf (gwrywaidd neu fenywaidd) i ennill 100 cap dros eu gwlad. Bu i'r gweinyddydd chwaraeon a'r darlithydd, Laura McAllister o Penybont-ar-Ogwr hefyd chwarae i'r tîm.

Record Rhyngwladol golygu

Cwpan y Byd golygu

Nid yw Cymru erioed wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd i Ferched.

Cwpan y Byd
Blwyddyn Canlyniad Ch E Cyf Coll + - GG
  1991 Heb gystadlu - - - - - - -
  1995 Heb gystadlu - - - - - - -
  1999 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
  2003 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
  2007 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
  2011 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
  2015 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Cyfanswm 0/7 - - - - - - -

Cyfeiriadau golygu

  1. "Inofficial European Women Championship 1979". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Merched Cymru'n gobeithio tanio". 2014-05-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "1982-84 Overview". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "1993-95 UEFA Women's EURO". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.