Leopold Kohr
economegydd, academydd, athronydd (1909-1994)
Roedd Leopold Kohr (5 Hydref 1909 – 26 Chwefror 1994) yn economegydd, cyfreithegwr, anarchydd a gwyddonydd gwleidyddol. Fe'i ganwyd yn Oberndorf bei Salzburg, Awstria.
Leopold Kohr | |
---|---|
Ganwyd | 5 Hydref 1909 Oberndorf bei Salzburg |
Bu farw | 26 Chwefror 1994 Caerloyw |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd, athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Breakdown of Nations |
Gwobr/au | Gwobr 'Right Livelihood', Anrhydeddu Aur am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria |
Prif thema ei waith oedd pwysigrwydd maint endidau gwleidyddol ac economaidd; roedd yn credu'n gryf mai'r duedd i greu endidau a gwladwriaethau mawr, grymusgar oedd wrth wraidd llawer o broblemau'r byd, ac mai cynnal endidau llai oedd y ffordd orau i wella'r byd. Buodd weithio ym Mhrifysgol Puerto Rico ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd ganddo berthynas glòs â chenedlaetholdeb Cymreig. Bu farw yng Nghaerloyw, Lloegr.
Llyfryddiaeth
golygu- Cymru Fach Y Lolfa, 1980
- Small is Beautiful: Detholiad o'i ysgrifau. Wien, 1995.
- The Academic Inn, Lolfa, 1993.
- The Inner City: From Mud To Marble, Lolfa, Dyfed, 1989.
- Development Without Aid: The Translucent Society, Schocken Books, 1979.
- The Overdeveloped Nations: The Diseconomies Of Scale, Schocken, 1978.
- The City Of Man: The Duke Of Buen Consejo, Univ Puerto Rico, 1976.
- Is Wales Viable?, C. Davies, 1971.
- The Breakdown of Nations, Routledge & K. Paul, 1957 (fersiwn 1986 Routledge ar wefan books.google.com[dolen farw]); - ei lyfr enwocaf
- "Disunion Now: A Plea for a Society based upon Small Autonomous Units", a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Commonweal ym 1941 dan y ffug-enw Hans Kohr.