Lewis Howard Latimer
Dyfeisiwr o'r Unol Daleithiau a ddrafftiodd y patentau ar gyfer y bwlb golau a’r ffôn oedd Lewis Howard Latimer (4 Medi 1848 - 11 Rhagfyr 1928). Gwellodd ddyfais wreiddiol Thomas Edison trwy batentu'r defnydd o ffilament carbon gan olygu bod modd defnyddio golau trydan yn gyhoeddus ac yn y cartref.[1][2]
Lewis Howard Latimer | |
---|---|
Ganwyd | 4 Medi 1848 Chelsea |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1928 Flushing |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, peiriannydd |
Tad | George Latimer |
Gwobr/au | Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr |
Ganwyd Lewis Howard Latimer yn Chelsea, Massachusetts, ar Fedi 4, 1848, yr ieuengaf o bedwar o blant Rebecca Latimer (1823 - 13 Awst 1910) a George Latimer (4 Gorffennaf 1818 - 29 Mai 1897). [3] Roedd George Latimer wedi bod yn gaethwas i James B. Gray o Virginia. Rhedodd George Latimer i ffwrdd i Boston, Massachusetts, ym mis Hydref 1842, ynghyd â'i fam Rebecca, a oedd wedi bod yn gaethwas i ddyn arall. Pan ymddangosodd Gray, y caethfeistr, yn Boston i fynd â nhw yn ôl i Virginia, daeth yn achos nodedig i'r mudiad dros ddileu caethwasiaeth, gan ennill cyfranogiad diddymwyr fel William Lloyd Garrison. Yn y pen draw, codwyd arian i dalu $400 i Grey am ryddid George Latimer.
Ymunodd Lewis Howard Latimer â Llynges yr Unol Daleithiau yn 15 oed ar Fedi 16, 1863, a gwasanaethodd fel dyn tir sych i'r USS Massasoit. Ar ôl cael ei ryddhau gydag anrhydedd o'r llynges ar Orffennaf 3, 1865, cafodd ei gyflogi i weithio gyda chwmni cyfraith patent, Crosby Halstead a Gould, gyda chyflog $3.00 yr wythnos. Dysgodd sut i ddefnyddio sgwâr, pren mesur ac offer eraill. Gwelodd ei reolwr bod ganddo ddawn wrth fraslunio patentau a cafodd Latimer ei ddyrchafu i swydd y prif ddrafftiwr gan ennill $20.00 yr wythnos erbyn 1872. [3]
Priododd Latimer â Mary Wilson Lewis ar Tachwedd 15, 1873, yn Fall River, Massachusetts. Fe'i ganed yn Providence, Rhode Island, yn ferch i William a Louisa M. Lewis.[4] Cafodd Lewis a Mary Latimer ddwy ferch, Emma Jeanette (Mehefin 12, 1883 - Chwefror 1978) a Louise Rebecca (Ebrill 19, 1890 - Ionawr 1963). Priododd Jeanette â Gerald Fitzherbert Norman, y person du cyntaf i'w gyflogi fel athro ysgol uwchradd yn system ysgolion cyhoeddus Dinas Efrog Newydd,[5] a chawsant ddau o blant: Winifred Latimer Norman (Hydref 7, 1914 - Chwefror 4, 2014), gweithiwr cymdeithasol a wasanaethodd fel gwarcheidwad etifeddiaeth ei thad-cu; a Gerald Latimer Norman (Rhagfyr 22, 1911 - Awst 26, 1990), a ddaeth yn farnwr cyfraith weinyddol.
Am 25 mlynedd, o 1903 hyd ei farwolaeth ym 1928, bu Latimer yn byw gyda'i deulu mewn cartref ar Holly Avenue yn yr hyn a elwir bellach yn adran East Flushing o Queens, Efrog Newydd.[6] Bu farw Latimer ar Ragfyr 11, 1928, yn 80 oed.[1] Tua thrigain mlynedd ar ôl ei farwolaeth, symudwyd ei gartref o Holly Avenue i 137th Street yn Flushing, Queens, sydd tua 1.4 milltir i'r gogledd-orllewin o'i leoliad gwreiddiol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Lewis H. Latimer Dead. Member of Edison Pioneers. Drew Original Plans for Bell Phone". New York Times. December 13, 1928.
- ↑ Lewis Howard Latimer, biography.com. Retrieved 2017-12-24.
- ↑ 3.0 3.1 Fouché, Rayvon, Black Inventors in the Age of Segregation: Granville T. Woods, Lewis H. Latimer, and Shelby J. Davidson, Baltimore & London: The Johns Hopkins University Press, 2003, ISBN 0-8018-7319-3.
- ↑ Massachusetts Marriages 253:121, Massachusetts Archives, Columbia Point, Boston
- ↑ Dick, Russell (2009). Black Genius: Inspirational Portraits of America's Black Leaders. New York: Skyhorse Publications. ISBN 978-1-60239-369-1.
- ↑ "Historic House Trust NYC". Historichousetrust.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-16.