Lewis Roberts
masnachwr ac economydd
Masnachwr Cymreig ac awdur llyfrau ar economeg oedd Lewis Roberts (1596 - 1640).[1] Ysgrifennodd sawl llyfr ar fasnach ac economeg ac roedd yn gyfaill i Izaak Walton ac eraill.
Lewis Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1596 Biwmares |
Bu farw | 12 Mawrth 1641 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, masnachwr, economegydd |
Bywgraffiad
golyguGaned Lewis Roberts ym Miwmares, Môn, yn 1596, yn fab i rieni cyfoethog.[2] Teithiodd yn eang. Cafodd swydd gyda'r East India Company gan ddod yn rheolwr arno yn nes ymlaen.[1]
Ysgrifennodd arweinlyfr i fasnachu tramor sef The Merchantes Mappe of Commerce (1638), yn seiliedig ar ei brofiad o wahanol wledydd. Yn 1640, blwyddyn ei farwolaeth, cyhoeddodd The Treasure of Trafficke. Yn y llyfr hwnnw mae'r awdur yn troi at economeg wleidyddol ac yn annog gwladoli yswiriant masnachol a chael ymyrraeth y wladwriaeth mewn masnach er mwyn ei rheoli.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- The Merchantes Mappe of Commerce (Llundain, 1638)
- The Treasure of Trafficke (Llundain, 1640)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
- ↑ National Library of Wales (1972). Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: The National Library of Wales Journal (yn Saesneg). Council of the National Library of Wales. t. 417.