Liam Payne
Roedd Liam James Payne (29 Awst 1993 - 16 Hydref 2024) yn ganwr a cyfansoddwr caneuon o Loegr, sy'n adnabyddus fel aelod o'r grŵp pop One Direction. [1][2]
Liam Payne | |
---|---|
Ffugenw | Payno |
Ganwyd | Liam James Payne 29 Awst 1993 Wolverhampton |
Bu farw | 16 Hydref 2024 o marwolaeth drwy gwymp Palermo, Buenos Aires |
Label recordio | Capitol Records, Syco Music, Columbia Records, Republic Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr-gyfansoddwr, artist recordio, cyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B |
Partner | Cheryl Cole, Maya Henry |
Gwobr/au | Gwobrau Teen Choice |
Gwefan | https://liampayneofficial.com |
llofnod | |
Yn 14 mlwydd oed ymddangosodd Payne fel cystadleuydd unigol ar y gyfres deledu Brydeinig The X Factor. Cyrhaeddodd rownd 'tai y beirniaid' ond ni aeth yn bellach a dywedodd Simon Cowell y dylai geisio eto mewn 2 flynedd.[3] Dychwelodd yn 2010 ond ni lwyddodd gyrraedd categori y 'Bechgyn'. Yn dilyn awgrym gan y gwestai gwadd Nicole Scherzinger, ymunodd Payne gyda chystadleuwyr unigol eraill, sef Harry Styles, Niall Horan, Louis Tomlinson, a Zayn Malik, mewn grŵp gyda'i gilydd i gystadlu yn Wembley Arena, yn ystod rhan 'bootcamp' y gystadleuaeth. Llwyddodd y pumawd gyrraedd categori y 'Grŵpiau' ac ennill lle yn y rhaglenni byw.[4] Daeth y grŵp yn boblogaidd iawn mewn byr o amser, gan ddod yn drydydd lle yn y gyfres.[5]
Ar ôl seibiant One Direction yn 2016, dilynodd Payne yrfa unigol.[6] Bu farw Payne ym mis Hydref 2024, ar ôl cwympo o falconi trydydd llawr mewn gwesty yn Buenos Aires, yr Ariannin.[7]
Bywyd personol
golyguRhwng 2016 a 2018 cafodd berthynas gyda Cheryl Cole, oedd wedi bod yn un o feirniaid yr X Factor. Ganwyd mab iddynt o'r enw Bear[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Oliver, Sarah (2014). Zayn Malik and Liam Payne – The Biography (yn Saesneg). Efrog Newydd: John Blake Publishing. ISBN 978-1782199496.
- ↑ Nash, Victoria (11 Medi 2010). "Liam Payne now sprinting to X Factor success". Express & Star. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2015.
- ↑ "Episode 1". The X Factor (series 5). London. 16 Awst 2008. ITV.
- ↑ Kelly, Kristy (26 Gorffennaf 2011). "Nicole Scherzinger: 'I did Simon Cowell a favour with One Direction'". Digital Spy. Cyrchwyd 7 Ebrill 2022.
- ↑ "Exclusive Q&A: Simon Cowell on One Direction's Rise to Stardom". Rolling Stone. 9 April 2012. Cyrchwyd 7 April 2022.
- ↑ "Listen to 1D's Liam Payne's Remix of Cheryl's new single 'I Don't Care'". MTV UK. 14 October 2014. Cyrchwyd 10 January 2016.
- ↑ Morgan, Emmanuel; Herrera, Lucía Cholakian. "What We Know About Liam Payne's Death". The New York Times (yn endate=17 Hydref 2024). Cyrchwyd 18 Hydref 2024.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Entertainment & Arts (25 Mawrth 2017). "Cheryl and Liam announce birth of baby boy". BBC News. United Kingdom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2017. Cyrchwyd 25 Mawrth 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)