Prifddinas a dinas fwyaf Gabon yng ngorllewin Affrica yw Libreville. Mae ganddi boblogaeth o 578,156 o drigolion (2005) allan o boblogaeth amcangyfredig o tua 1,383,000 ar gyfer y wlad i gyd (2006). Cafodd ei sefydlu yn 1849.

Libreville
Mathdinas, dinas â phorthladd, prifddinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth797,003 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1849 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iNice, Durban, São Tomé Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLibreville Edit this on Wikidata
GwladBaner Gabon Gabon
Uwch y môr13 metr Edit this on Wikidata
GerllawGabon Estuary, Gwlff Gini Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.3901°N 9.4544°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Libreville yn borthladd lleoliedig ar aber Afon Komo, yn agos i Gwlff Gini, ac mae'n ganolfan masnach pren coed trofaol. Mae'n ganolfan weinyddol Talaith l'Estuaire, y fwyaf yn Gabon.

Lleolir prif faes awyr Gabon yn Libreville, Maes Awyr Rhyngwladol Léon M'ba.

Adeilad y Canghellordy, Libreville
Eginyn erthygl sydd uchod am Gabon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.