Lisa Cholodenko
Awdures-sgrin a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Lisa Cholodenko (ganwyd 5 Mehefin 1964) sydd hefyd wedi gwneud ei marc yn y byd teledu. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilmiau High Art (1998), Laurel Canyon (2002), a The Kids Are All Right (2010). Enillodd Wobr yr Ysbryd Rhydd, Annibynnol am y Sgript Gorau (Independent Spirit Award for Best Screenplay) yn 2010 am The Kids Are All Right (2010)
Lisa Cholodenko | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1964 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, llenor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | Laurel Canyon, The Kids Are All Right |
Priod | Wendy Melvoin |
Partner | Wendy Melvoin |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special |
Mae wedi cyfarwyddo nifer o weithiau teledu, gan gynnwys y gyfres-bitw Olive Kitteridge (2014) a ddaeth a gwobr Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special iddi yn ogystal â Directors Guild of America Award for Outstanding Directing – Miniseries or TV Film.[1][2] [3][4][5]
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Los Angeles ar 5 Mehefin 1964 ac fe'i magwyd mewn teulu Iddewig, rhyddfrydol.[6][7] Ymfudodd ei mam-gu a'i thad-cu o'r Wcráin; roedd hen-daid ei thad hefyd yn dod o Kyiv, Wcráin.[8]
Coleg
golyguWedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol San Francisco ac Ysgol Gelf Columbia.[9][10]
Astudiodd Cholodenko anthropoleg, astudiaethau ethnig, ac astudiaethau menywod ym Mhrifysgol Talaith San Francisco. Teithiodd i India a Nepal a threuliodd 18 mis yn Jerwsalem ar ôl graddio.[11]
Yna ymunodd ag Ysgol y Celfyddydau, Prifysgol Columbia yn 1992, gan ennill MFA mewn ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer y sgrin yn 1997, lle'r oedd James Schamus yn un o'i hathrawon, a fyddai'n dod yn Brif Swyddog Gweithredol y cwmni Focus Features, yn ddiweddarach.[12]
Gyrfa
golyguDechreuodd yn y diwydiant ffilm yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 1990au. Gweithiodd fel prentis golygydd ar Boyz n the Hood gan John Singleton ac fel golygydd cynorthwyol ar Used People gan Beeed Kidron.[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tabach-Bank, Lauren (13 Awst 2014). "Flipping the Script: Lisa Cholodenko". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-03. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
- ↑ Olozia, Jeff (13 Awst 2014). "Sam Taylor-Johnson, Lisa Cholodenko, Sarah Polley and Other Female Directors on the Movies That Influenced Them". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-20. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
- ↑ Alma mater: "Hall of Fame | Alumni Association". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2023. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023. Pam Grady. "Close-Up with Lisa Cholodenko | SF State Magazine" (yn Saesneg). Prifysgol San Francisco. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
Lisa Cholodenko (B.A., '87) could hardly believe the news.
- ↑ Man gwaith: https://www.acmi.net.au/creators/79284.
- ↑ Galwedigaeth: https://seventh-row.com/a-history-of-women-directors-at-the-cannes-film-festival/. https://www.acmi.net.au/creators/79284.
- ↑ Gross, Terry (8 Gorffennaf 2010). "Director Lisa Cholodenko On Conceiving 'The Kids'". Fresh Air. NPR. Cyrchwyd 17 Medi 2010.
- ↑ Greenberg, Brad A. (3 Gorffennaf 2009). "State Senate Hearing on Madoff Losses". Jewish Journal of Greater Los Angeles. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
- ↑ "Dateline New York: New Yorkers bring culture to Catskills by Helen Smindak" (Press release). 13 Medi 1998. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2016-03-04. https://web.archive.org/web/20160304054104/http://www.ukrweekly.com/old/archive/1998/379820.shtml. Adalwyd 2019-07-07.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. https://seventh-row.com/a-history-of-women-directors-at-the-cannes-film-festival/.
- ↑ Dyddiad geni: "Lisa Cholodenko". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Cooke, Rachel (2 Hydref 2010). "Lisa Cholodenko: 'I wanted to make a film that was not sanctimonious or sentimental'". The Guardian. Cyrchwyd 29 Hydref 2013.
- ↑ Simpson, David (20 Rhagfyr 2010). "Awards Watch Roundtable: The Directors (full video)" (video). The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 29 Hydref 2013.
- ↑ Toumarkine, Doris (28 Mehefin 2010). "Family dynamic: Lisa Cholodenko explores modern parenthood in 'The Kids Are All Right'". Film Journal International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-02. Cyrchwyd 29 Mehefin 2010.