Clwb pêl-droed yn yr Alban yw Livingston Football Club.

Livingston F.C.
Enw llawn Livingston Football Club
(Clwb Pêl-droed Livingston).
Llysenw(au) The Lions ("Y Llewod")
Livi
Sefydlwyd 1843 (fel Ferranti Thistle)
Maes Stadiwm Almondvale
Cadeirydd Baner Yr Alban Robert Wilson
Rheolwr Baner Yr Alban Gary Holt
Cynghrair Uwchgynghrair yr Alban
2021/22 7.
Gwefan Gwefan y clwb

Hanes golygu

Ferranti Thistle (1943-1974) golygu

Sefydlwyd y clwb o dan yr enw Ferranti Thistle yn 1943. Tim gweithle a gystadlodd yng nghyngrair dwyrain yr Alba oedd hi'n wreiddiol a chwaraeodd yn City Park, Caeredin. Yn dilyn diddymiad Third Lanark, daeth cyfle i fyned i'r ail adran yng Nghyngrair Pêl-droed yr Alban. Ar ôl curo pedwar o dimau Highland League, Hawick Royal Albert a Gateshead United, derbyniwyd Ferranti Thistle i'r gynghrair o 21-16 pleidlais dros Inverness Thistle. Oherwydd rheolau llym y Gyngrhair ar y pryd ynglŷn â noddi timau, roedd yn rhaid newid yr enw er mwyn gallu cymryd rhan. Yn dilyn ymgyrch gan yr Edinburgh Evening News i ganfod enw newydd i'r clwb, dewiswyd Meadowbank Thistle, a chymeradwywyd ef gan y Gyngrhair mewn pryd ar gyfer y tymor newydd.

Meadowbank Thistle (1974-1995) golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Prin y cawsont unrhyw amser i greu sgwad felly roedd yn gryn sialens i reolwr cyntaf Meadowbank Thistle, John Bain, adeiladu sgwad cystadleuol ar gyfer y tymor newydd. Chwaraewyd eu gêm gystadleuol gyntaf ar 9 Awst 1974 yn erbyn Albion Rovers yng nghystadleuaeth Cwpan y Gyngrhair, gan golli 1-0 er holl ymdrechion y dawnsiwr go-go a logwyd i ddathlu'r digwyddiad.

Noddwyr golygu

Blwyddyn Noddwyr cit Prif noddwr
1995–1998 Russell Athletic Mitsubishi
1998–2001 Motorola
2001–2002 Jerzeez
2002–2004 Intelligent Finance
2004–2007 Xara
2007–2008 Nike Smarter Loans
2008–2009 Macron RDF Group
2009–2010 Umbro Fasteq
2010–2011 Erreà
2011–2012 Umbro
2012–2013 Adidas
2013–2014 Energy Assets
2014–2015 Joma