Llyfr Ffrangeg am hela yw'r Livre de chasse ("Llyfr yr Helfa"), a ysgrifennwyd rhwng 1387 a 1389 gan yr uchelwr Ffrengig Gaston Fébus (Gaston III, Comte de Foix; 1331–1391). Yn Oesoedd Canol Diweddar, roedd hela yn ddawn hanfodol ymhlith yr uchelwyr, ac nid yn ddifyrrwch yn unig. Astudiwyd llyfr Fébus yn fanwl, a gwnaed llawer o gopïau llawysgrif ohono. Daeth yn werslyfr safonol ei ddydd ar dechnegau hela.

Livre de chasse
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, traethawd Edit this on Wikidata
AwdurGaston III de Fois-Bearn Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1390 Edit this on Wikidata
Prif bwnchela Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae 44 o lawysgrifau o Livre de chasse wedi goroesi, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o'r 15g, a dyrnaid yn dyddio o ddechrau'r 16g. Fe'i hargraffwyd deirgwaith yn ystod yr 16g. Troswyd i'r Saesneg ym 1415 gan Edward, Dug Efrog, dan y teitl The Master of Game; mae 27 o lawysgrifau o'r trosiad hwn wedi goroesi.

Rhennir y llyfr yn bedair rhan:

  • Ynghlŷn â bwystfilod mwyn a ffyrnig
  • Ynghlŷn â natur cŵn a'u gofal
  • Ynglŷn â chyfarwyddiadau ar gyfer hela â chŵn
  • Ynghlŷn â'r helfa â thrapiau, maglau a bwa croes

Llyfryddiaeth

golygu
  • Richard Vernier, Lord of the Pyrenees: Gaston Fėbus, Count of Foix 1331–1391 (Woodbridge: Boydell & Brewer, 2008)

Dolen allanol

golygu