Liza Minnelli
Cantores ac actores ffilm, llwyfan a theledu ydy Liza May Minnelli (ganed 12 Mawrth 1946). Ei mam oedd yr actores a'r gantores Judy Garland a'i thad oedd y cyfarwyddwr ffilm Vincente Minnelli.
Liza Minnelli | |
---|---|
![]() | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Enw genedigol | Liza May Minnelli |
Ganwyd | 12 Mawrth 1946 |
Man geni | ![]() |
Cerddoriaeth | pop, |
Galwedigaeth(au) | Cantores, actores |
Offeryn(au) cerdd | Llais |
Blynyddoedd | 1949–presennol |
Cysylltiedig | Judy Garland |
Wedi iddi astudio yn y "New York High School of Performing Arts" a'r "Stiwdio Herbert Berghof", dechreuodd Minnelli dderbyn rhannau mewn sioeau cerdd fel Best Foot Forward a Flora the Red Menace. Derbyniodd Gwobr Theatre World am "Best Foot Forward" ym 1963 a Gwobr Tony ym 1965 am "Flora the Red Menace". Roedd Minnelli eisoes wedi sefydlu'i hun fel cantores clybiau nos, ac fel actores cymeriad yn y ffilmiau The Sterile Cuckoo a Tell Me That You Love Me, Junie Moon. Serch hynny, y rôl a ddaeth a fwyaf o amlygrwydd iddi oedd fel Sally Bowles yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd Broadway Cabaret ym 1972. Derbyniodd Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm hon.
Er i brosiectau megis Lucky Lady, A Matter of Time a New York, New York gael eu beirniadau, ystyriwyd Minnelli yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a phoblogaidd ar y teledu, gan ymddamgos ar raglenni fel Liza with a Z ym 1972, ac ar lwyfan mewn cynyrchiadau Broadway fel "The Act" a "The Rink". O ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, rhoddwyd sylw mawr yn y wasg i'r phroblemau iechyd, alcoholiaeth a'i chamdriniaeth o gyffuriau. Serch hynny, ail-sefydlwyd ei gyrfa gyda chyfres o deithiau cyngherddol fel "Liza Minnelli: At Carnegie Hall", "Frank, Liza & Sammy: The Ultimate Event" a "Liza Live from Radio City Music Hall".
Ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd difrifol, dychwelodd Minnelli i fyd perfformio yn 2002, gyda chyfres o gyngherddau o'r enw "Liza's Back". Yn 2008/09 perfformiodd y sioe Broadway Liza's at The Palace...! a enillodd Wobr Tony am y Digwyddiad Theatraidd Gorau.[1]
Mae Minnelli wedi ennill cyfanswm o dair Gwobr Tony, gan gynnwys Gwobr Tony Arbennig.[2] Mae hi hefyd wedi ennill Oscar, Gwobr Emmy, dau Golden Globe a Gwobr Arwr Grammy am ei chyfraniadau a dylanwad ym myd recordio, ynghyd â nifer o anrhydeddau a gwobrau eraill.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Broadway World.com (7 Mehefin, 2009). 2009 Tony Award Winner: Liza's at The Palace For 'Best Special Theatrical Event. BroadwayWorld.com.
- ↑ http://www.ibdb.com/awardperson.asp?id=68333