Ymddengys Llacheu fel mab i Arthur mewn nifer o'r ffynonellau Cymraeg cynnar. Ymddengys yn y gerdd Pa Gwr yw y Porthawr, yn ymladd gyda Cei mewn brwydr. Ymddengys hefyd yn un o Drioedd Ynys Prydain ac yn y gerdd Ymddiddan Gwyddno Garanhir ac Gwyn fab Nudd yn Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y gerdd yma mae Gwyn ap Nudd yn dweud ei fod wedi bod yn y fan lle lladdwyd Llacheu fab Arthur.

Ceir nifer o gyfeiriadau ato yng ngwaith y Gogynfeirdd, yn enwedig yng ngwaith Cynddelw Brydydd Mawr. Dywed Bleddyn Fardd iddo gael ei ladd islaw "Llech Ysgar".

Llyfryddiaeth

golygu