Llyfr Du Caerfyrddin
Un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (llawysgrif Peniarth 1), sy'n cael ei gyfri fel y casgliad hynaf o farddoniaeth Gymraeg.[1] Llawysgrif gymharol fychan yw, a ysgrifennwyd ar femrwn rhywbryd yng nghanol y 13g, efallai ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yn nhref Caerfyrddin. Mae'n cynnwys 39 o gerddi ac un testun rhyddiaith byr, ar 54 tudalen ffolio; sef cyfanswm o 108 tudalen (mae rhai tudalennau yn eisiau). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Lawysgrifau Peniarth.
Llyfr Du Caerfyrddin (f.4.r) | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Crëwr | Unknown |
Deunydd | memrwn |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Cymraeg, Saesneg |
Tudalennau | 70 |
Dechrau/Sefydlu | c. 1350 |
Genre | barddoniaeth |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Perchennog | John Price, Jasper Gryffyth, Siôn Tudur, Robert Vaughan |
Prif bwnc | proffwydo, Trioedd Ynys Prydain |
Yn cynnwys | Ymddiddan Myrddin a Thaliesin, Englynion y Beddau, Ysgolan, Marwysgafn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i lluniwyd dros gyfnod o sawl blwyddyn ac mae'n gofnod o gerddi a sgwennwyd rhwng y 9fed a'r 12g.
Cefndir
golyguY llawysgrif
golyguCysylltir y Llyfr Du â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, a drowyd yn dŷ Awstinaidd gan y Normaniaid. Digon tlawd oedd y sefydliad, oedd dan reolaeth Priordy Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent tan ddechrau'r 13g. Ategir y darlun o dlodi'r priordy gan y ffaith mai darnau bach o femrwn caled a ddefnydwyd ar gyfer y llawysgrif. Mae'r llaw fras a geir ynddi'n awgrymu mai gŵr oedd yn gyfarwydd ag ysgrifenyddiaeth litwrgaidd a'i hysgrifennodd. Yn wahanol i lawysgrifau Cymreig cynnar eraill fel Llyfr Taliesin nid yw arddull y Llyfr Du yn rheolaidd - mae ffurfiau'r llythrennau'n ansefydlog, er enghraifft - ac mae'n debyg nad ysgrifennwr proffesiynol a'i lluniodd. Fel y noda A.O.H. Jarman, mae'r Llyfr Du yn llawysgrif unigryw sy'n anodd i'w dyddio a rhaid dibynnu ar dystiolaeth fewnol y llawysgrif ei hun i wneud hynny; sefyllfa sydd wedi peri bod cryn amrywiaeth barn amdani. Mae'r ffaith fod orgraff y llythrennau'n newid yn sylweddol ar ôl ffolio 20 yn awgrymu fod y llawysgrif wedi cael ei llunio ar ddau gyfnod gwahanol.
Ei hanes
golyguMae hanes trosglwyddiad y llawysgrif yn ddiddorol. Yn ail chwarter yr 16g roedd ym meddiant Syr John Price (1502-55), awdur Yn y lhyvyr hwnn. Ar sail ei dystiolaeth ef yn unig y cysylltir y Llyfr Du â Chaerfyrddin. Dywed Syr John y cafodd y llyfr gan un o drysorwyr Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yng nghyfnod diddymu'r mynachlogydd, a bod y trysorwr yn dweud ei fod yn tarddu o Briordy Caerfyrddin. Rhywbryd ar ôl hynny cafodd ei ffordd o'r De i'r Gogledd, fel nifer o lawysgrifau eraill. Ceir nodyn ynddo yn llaw y bardd Siôn Tudur (m. 1602). Roedd ym meddiant y casglwr Jasper Gryffyth (m. 1614) ar ddechrau'r 17g. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt (Meirionnydd). Bu yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfr yno yn 1696. Yna etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.
Cynnwys
golyguDyma'r testunau a geir yn y Llyfr Du yn nhrefn y llawysgrif:
- Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (darogan a chylch Myrddin)
- Breuddwyd a Welwn Neithiwr (diarhebion mydryddol yn bennaf)
- Devs Ren Rymaw y Awen (moliant i Guhelyn Fardd)
- Hervit Vrten Autyl Kyrridven (moliant - ail ran y gerdd uchod)
- Dadl y Corff a'r Enaid ynghyd â dryll ohono (crefyddol)
- Trioedd y Meirch (chedlonol)
- Moli Duw yn Nechrau a Diwedd (crefyddol)
- Cyntefin Ceinaf Amser (crefyddol / natur)
- Gogonedog Arglwydd (crefyddol)
- Mawl i'r Drindod (crefyddol)
- Mawl i Dduw (crefyddol)
- Iesu a Mair a'r Cynhaeaf Gwyrthiol (crefyddol)
- Addwyn Gaer (moliant)
- Dinas Maon (chwedlonol)
- Y Bedwenni (darogan a chylch Myrddin)
- Afallennau (darogan a chylch Myrddin)
- Oianau Myrddin (darogan a chylch Myrddin)
- Englynion y Beddau (chwedlonol)
- Kygogion. Elaeth ae Cant a cherdd arall a briodolir i Elaeth (crefyddol)
- Gereint fil' Erbin (chwedlonol - am yr arwr Geraint fab Erbin)
- I Hywel ap Goronwy (moliant)
- Aswynaf Nawdd Duw (moliant)
- Ysgolan (chwedlonol)
- Cyntaf Gair a Ddywedaf (crefyddol)
- Cysul Addaon (gwirebau / crefyddol)
- Marwysgafn Cynddelw Brydydd Mawr (crefyddol)
- Bendith y Wenwas (crefyddol)
- Mechydd ap Llywarch (chwedlonol)
- Pa ŵr yw'r porthor? (chwedlonol)
- Gwallawg a'r Ŵydd (chwedlonol)
- Ymddiddan rhwng Gwyddneu Garanhir a Gwyn ap Nudd (chwedlonol)
- Dau ddarn o Chwedl Trystan (chwedlonol)
- Ymddiddan Ugnach a Thaliesin (chwedlonol)
- Englynion i Deulu Madog ap Maredudd (moliant)
- Marwnad Madauc fil' Maredut (marwnad)
- Boddi Maes Gwyddneu (chwedlonol)
- Enwev Meibon Llywarch Hen (chwedlonol)
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyhoeddodd William Forbes Skene (1809-1892) destun y Llyfr Du yn ei olygiad uchelgeisiol ond gwallus Four Ancient Books of Wales.
Ceir y testunau gorau yn:
- J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Black Book of Carmarthen (Pwllheli, 1907). Testun diplomatig.
- A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982). Gyda nodiadau a geirfa. ISBN 0-7083-0629-2
Cyfeiriadau
golygu- ↑ GY Gwyddoniadur Cymraeg; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tudalen577