Llam llyffant (tacteg)

Tacteg gan droedfilwyr yw llam llyffant er mwyn symud lluoedd tuag at gyrchfan a amddiffynnir gan y gelyn. Bydd un milwr, cerbyd, neu is-uned yn aros yn y fan er mwyn darparu tanio amddiffynnol, tra bydd y milwr, cerbyd, neu is-uned arall yn symud ymlaen i gymryd lleoliad tanio o'u blaen, ac yn ailadrodd y dacteg hon bob yn ail nes bydd y lluoedd yn cyrraedd eu nod.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bowyer, Richard. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 141.
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.