Troedfilwr
Milwr sy'n gorymdeithio ac sy'n ymladd ar droed yw troedfilwr.[1] Maent yn cario cyfarpar ac arfau cludadwy megis reiffl, gwn peiriant, mortar, grenadau, neu lansiwr rocedi, a chyflenwadau os ydynt yn y maes am gyfnod hir. Swyddogaeth y troedfilwr yw i gipio a dal tir ar y faes y gad, ac mewn goresgyniad i feddiannu tir y gelyn.[2] Darperir amrywiaeth o gerbydau i gludo'r troedfilwyr modern o amgylch maes y frwydr, ond yn aml maent yn parhau i ymladd ar droed gydag arfau llaw.[3]
Math o gyfryngau | adran y lluoedd arfog |
---|---|
Math | adran y lluoedd arfog |
Rhan o | byddin, môr-filwr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trefnir troedfilwyr mewn unedau (platŵn, cwmni a bataliwn) sy'n rhan o fyddin, o'i gyferbynnu â mathau eraill o filwyr megis y marchfilwr. Rhennir yn droedfilwyr trymion a throedfilwyr ysgafn. Yn hanesyddol, gwisgodd troedfilwyr trymion arfogaethau ac roedd troedfilwyr ysgeifn yn cynnwys ysgarmeswyr, taflwyr a bwawyr. Yn yr oes fodern, y tanciau yw'r troedfilwyr trymion a chyrchfilwyr a lluoedd mewn tanciau bychain sy'n ffurfio'r troedfilwyr ysgeifn.[4]
Hanes
golyguY cleddyf, y gwayw, y ffon dafl a'r bwa oedd arfau troedfilwyr yr Henfyd. Datblygodd y 'mur tariannau' ym Mesopotamia, y ffalancs yng Ngroeg a'r lleng yn Rhufain. Defnyddid trefniannau mwy ystwyth yn Tsieina, gan fanteisio ar y bwa croes. Daeth y marchfilwr i ddominyddu rhyfeloedd Ewrasia wedi'r 4g. Y troedfilwr oedd y prif fodd o frwydro yn yr Amerig nes i'r concwistadoriaid ddod â'r ceffyl yno. Dychwelodd bwysigrwydd y troedfilwr yn Ewrop yn sgil dyfeisio drylliau yn y 14g. Brwydrodd troedfilwyr mewn trefniannau a lluoedd mawr hyd ddiwedd y 19g. Datblygodd rhyfela'r ffosydd yn sgil dyfodiad y dryll awtomatig adeg Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [infantryman].
- ↑ (Saesneg) infantry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
- ↑ Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 126.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) infantry. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.