Llefarydd
Unigolyn sydd yn cael ei gyflogi i siarad ar ran eraill yw llefarydd. Mae nifer o sefydliadau yn debygol o gyflogi gweithwyr proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant yn newyddiaduriaeth, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus er mwyn sicrhau bod cyhoeddiadau yn cael eu datgan i'r cyhoedd ac i'r cyfryngau yn y ffordd fwyaf addas ac i uchafu effaith negeseuon ffafriol, ac i isafu effaith negeseuon anffafriol.