Gwleidyddiaeth
Trwy wleidyddiaeth mae grwpiau o bobl yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar cymunedau o bobl neu wlad gyfan. Defnyddir y term fel arfer i ddisgrifio ymddygiad o fewn llywodraethau gwladol, cynghorau a chyrff yn cynnwys sefydliadau: corfforedig, academaidd, a chrefyddol.
Mae gwleidyddiaeth yn cynnwys cysylltiadau cymdeithasol sy'n ymwneud ag awdurdod neu bŵer ac yn cyfeirio at reoliad uned wleidyddol, ac i'r dulliau a thactegau a ddefnyddir i ffurfio a chymhwyso polisi.
Astudiaeth ymddygiad gwleidyddol yw gwyddor gwleidyddiaeth, ac mae'n archwilio caffaeliad a chymhwysiad pŵer. Mae meysydd cysylltiedig yn cynnwys athroniaeth wleidyddol, sy'n ymchwilio i sail resymegol am wleidyddiaeth ac egwyddor am ymddygiad cyhoeddus, a gweinyddiaeth gyhoeddus, sy'n archwilio ymarferion y dren lywodraethol.