Lleuad orwych
Lleuad lawn neu leuad newydd sy'n cyd-ddigwydd â pherigê yw lleuad orwych. Dyma'r agosaf y daw y Lleuad i'r Ddaear yn ystod ei gylchdro, gan achosi i ddisg y lleuad ymddangos ychydig yn fwy nag arfer wrth edrych arno o'r Ddaear.[1] Sysygy perigê yw'r enw technegol a roir arno, neu leuad lawn (neu newydd) o amgylch perigê. Term astolegol ei darddiad yw lleuad orwych ac nid oes union ddiffiniad seryddol ar ei gyfer.[2]
O'r 12 neu 13 lleuad lawn (neu newydd) a geir mewn blwyddyn, mae tri neu bedwar fel arfer yn lleuadau gorwych.
Mae'r cysylltiad rhwng y Lleuad a'r llanw wedi arwain rhai i dybio bod lleuad orwych yn gysylltiedig â risg uwch o ddaeargrynfeydd neu ffrwydriadau llosgfynyddol, ond nid oes sail wyddonol i hyn.[3]
Mae'r gwrthwyneb i'r ffenomen hon, sef apoge sysygy neu leuad llawn o amgylch apoge. wedi ei alw'n leuad feicro..[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Staff (Medi 7, 2014). "Revisiting the Moon". New York Times. Cyrchwyd September 8, 2014.
- ↑ Plait, Phil. "Kryptonite for the supermoon". Bad Astronomy. Discover. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-22. Cyrchwyd August 29, 2015.
- ↑ Rice, Rachel. "No Link Between 'Super Moon' and Earthquakes". Discovery News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-13. Cyrchwyd March 20, 2015.
- ↑ "What Is a Micromoon?". timeanddate.com. Stavanger, Norway: Time and Date AS. Cyrchwyd August 6, 2018.