Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.

Seryddiaeth
Enghraifft o:cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, difyrwaith Edit this on Wikidata
Mathgwyddoniaeth ffisegol, union wyddoniaeth, gwyddoniaeth naturiol, gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 8. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Un o luniau dynwyd gan delesgop Hubble (NASA)

I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.

Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid, y Babiloniaid, yr Eifftiaid gynt a'r Groegiaid gynt yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.

Aristotlys (384 C.C.C. - 322 C.C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobl yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C.C..

Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telesgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.

Dolenni allanol

golygu


Planedau yng Nghysawd yr Haul
 
Mercher
 
Gwener
 
Y Ddaear
 
Mawrth
 
Iau
 
Sadwrn
 
Wranws
 
Neifion
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am seryddiaeth
yn Wiciadur.