Llewelyn Gwyn Chambers
Dr. Ll. Gwyn Chambers DSc (11 Chwefror 1924 – 9 Rhagfyr 2014) oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn Cymraeg Y Gwyddonydd ym Mawrth 1963. Fe'i ganed yn Hornchurch, Essex a'i addysgu yn Ysgol Haberdashers' Aske's yn Elstree ac yn Ysgol Ramadeg Porthmadog. Graddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1944. Bu'n gweithio ar ymchwil wyddonol yn y lluoedd arfog cyn cael gwaith fel darlithydd yn y coleg milwrol yn Shrivenham. O'r 1950au hyd at ei ymddeoliad bu'n ddarlithydd ym Mangor.
Llewelyn Gwyn Chambers | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1924 |
Bu farw | 9 Rhagfyr 2014 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwyddonydd |
Y Gwyddonydd
golyguYmddangosodd y cyfnodolyn Y Gwyddonydd am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1963, gyda chyhoeddiadau cyson hyd at 1996. Yr Athro Glyn O Phillips oedd y golygydd rhwng 1963 a 1993. "Fe'i sefydlwyd er mwyn dangos fod ymdrin â pynciau gwyddonol a thechnolegol o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbwl bosibl" yn ôl Dr Hefin Jones.[1] Nifwl troellog trobwll yng nghytser Canes Venatica oedd y llun ar glawr y rhifyn cyntaf.
Llyfryddiaeth
golygu- A course of Vector Analysis (1960)
- Introduction to the Mathematics of Electricity and Magnetism (1973)
- Integral Equations: a short course (1976)
- A Generalised Coordinates (1985)
- Ystadegaeth Elfennol (1991)
- Mathemategwyr Cymru (1994)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fideo ar You Tube; adalwyd 3 Chwefror 2015