Glyn O Phillips

Gwyddonydd, academig ac awdur o Gymro

Gwyddonydd, academydd ac awdur o Gymro oedd yr Athro Glyn O Phillips (11 Tachwedd 19275 Gorffennaf 2020). Roedd yn gemegydd, yn arbenigwr ar y diwydiant niwclear ac yn gyfrannwr cyson i raglenni radio a theledu Cymraeg. Ef oedd enillydd cyntaf Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004. [1]

Glyn O Phillips
GanwydGlyn Owen Phillips Edit this on Wikidata
11 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, academydd, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd a magwyd Glyn Owen Phillips yn Rhosllannerchrugog ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac ym Mhrifysgol Cymru, Bangor lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac yna mewn gwyddoniaeth am ei waith ymchwil ym maes carbohydradau. Enillodd gymrodoriaeth i'r Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Hartwell, Swydd Rydychen.

Gyrfa golygu

Ar ôl dwy flynedd yn Hartwell aeth i weithio yng Coleg y Brifysgol, Caerdydd a daeth yn Uwch-ddarlithydd mewn Cemeg. Yn 1967 fe'i penodwyd yn Athro Cemeg ym Mhrifysgol Salford Yn 1970 aeth allan i Nigeria gan sefydlu Prifysgol Benin ac ef oedd yr is-ganghellor cyntaf. Dychwelodd i Gymru yn 1975 gan ddod yn brifathro cyntaf Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru. Bu'n gadeirydd Research Transfer Ltd a Chwmni Ymchwil Hidrocolloid Phillips Cyf ac ymgynghorydd i sawl sefydliad diwydiannol.[2]

YM Mehefin 2003, sefydlwyd Canolfan Ymchwil Glyn o Phillips yn NEWI, lle'r oedd yn parhau i wneud gwaith ymchwil.

Roedd yn olygydd y cylchgrawn gwyddonol Cymraeg Y Gwyddonydd o'r rhifyn cyntaf yn 1963 i'r olaf yn 1993.

Anrhydeddau golygu

Derbyniodd raddau er anrhydedd o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Benin. Cafodd sawl anrhydedd hefyd fel Medal Hopkins o Gymdeithas Dewi Sant, Efrog Newydd.

Ef oedd enillydd cyntaf Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol pan gychwynnodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 2004.

Bywyd personol golygu

Yn fwy diweddar roedd ef a'i deulu wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Roedd yn briod a Rhiain ac roedd ganddynt ddau o blant, tri o wyrion ac un gor-wyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Athro Glyn O Phillips yn marw yn 92 oed , BBC Cymru Fyw, 5 Gorffennaf 2020.
  2. A risk we cannot take , Daily Post, 6 Awst 2004. Cyrchwyd ar 5 Gorffennaf 2004.