Llid y glust ganol

Llid a achosir gan haint o facteria ar groniad o hylif yn y glust ganol yw llid y glust ganol (Lladin: otitis media).[1]

Llid y glust ganol
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Llid acíwt y glust ganol
ICD-10 H65.-H67.
ICD-9 381-382
DiseasesDB 29620 serws,
Nodyn:DiseasesDB2 crawnol
MedlinePlus 000638 acíwt, 007010 clust ludiog, 000619 cronig
eMedicine emerg/351
ent/426 cymhlethdodau, ent/209 clust ludiog, ent/212 triniaeth feddygol, ent/211 triniaeth lawfeddygol ped/1689
MeSH [1]

Dosbarthiad

golygu

Llid acíwt y glust ganol

golygu

Haint tymor byr sydd yn aml yn ymddangos yn sydyn yw llid acíwt y glust ganol.[1]

Llid cronig y glust ganol

golygu

Heintiau cyson neu un haint tymor hir yw llid cronig y glust ganol. Yn aml mae ganddo symptomau llai difrifol, ond gall achosi mwy o niwed na llid acíwt oherwydd nid yw nifer o gleifion yn sylwi arno am amser hir.[1]

Clust ludiog

golygu

Llid cronig pan fydd y glust ganol yn llenwi â hylif yw clust ludiog. Gan amlaf nid yw'n arwain at dwymyn, pigyn clust, na rhedlif crawn o'r glust.[1] Mae plant sydd â chlust ludiog ac mae eu clustiau'n llenwi â mwcws am gyfnodau o nifer o wythnosau yn fwy tebygol o gael haint ar y glust.[2]

Achosion

golygu

Yn aml achoswyd llid y glust ganol gan haint yr annwyd cyffredin wrth iddo ledaenu o'r trwyn neu'r glust drwy'r bibell Eustachio gan rwystro'r bibell ac atal unrhyw hylifau yn y glust rhedeg allan drwy'r trwyn. Gall adenoidau neu donsiliau chwyddedig, sydd wrth gefn y gwddf, hefyd rwystro'r bibell Eustachio; mae'r achos hon yn fwy cyffredin mewn plant nag mewn oedolion.[2]

Gall dympan drydyllog y glust achosi llid cronig y glust ganol os caiff ei heintio gan ddŵr yn mynd i mewn i'r glust, yn enwedig mewn plant. Gall golesteatoma, sef tyfiant o feinwe y tu mewn i'r glust ganol, hefyd achosi llid cronig y glust ganol. Mae'n bosib i system imiwnedd plentyn gwanháu oherwydd afiechyd plentyndod megis y frech goch gan arwain at haint eilaidd wrth i'r corff ei gael yn anodd i frwydro yn erbyn haint gan facteria yn y glust ganol.[2]

Weithiau, nid oes rheswm amlwg dros haint sydd yn achosi llid y glust ganol.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Llid y glust ganol (otitis media): Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 11 Ebrill, 2010.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Llid y glust ganol (otitis media): Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Mehefin, 2010.