Mewn anatomeg mae'r system imiwnedd yn hanfodol er mwyn amddiffyn y corff rhag clefydau, drwy adnabod a lladd pathogenau a chelloedd tiwmor. Gwaith y system yma ydy adnabod y gwahanol organebau sy'n ymosod ar y corff, megis y feirws, pryfaid parasytig ac ar adegau gall rhai gofio'r 'gelyn' sy'n ymosod; dyma sail brechu. Gan fod llawer o'r pathogenau hyn yn newid (yn esblygu) yn sydyn iawn, mae'r system imiwnedd weithiau'n cael ei ddrysu, gan ymosod ar y corff ei hun.

System imiwnedd
Enghraifft o'r canlynolsystem o organnau Edit this on Wikidata
Mathcyfundrefn o fewn bywydeg, math o system anatomegol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscelloedd-cof T Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun wedi'i gymryd gan feicrosgop electron o un o niwtroffils unigol (melyn) y corff a bacteria anthrax llawer cryfach yn ymosod arno (mewn oren).

Mae'r system imiwnedd yn fecanwaith cymhleth a sensitif iawn. Mae ei swyddogaethau'n cynnwys cynhyrchu'r tymereddau uchel a elwir yn dwymyn, sydd hefyd yn rhan o'r ymgais i fynd i'r afael â haint, a chynhyrchu mwcws i faglu'r micro-organebau.

Yn anffodus, oherwydd ei bod mor gymhleth, gall weithiau weithredu'n anfanteisiol i'r corff, fel mewn adweithiau alergaidd a sioc anaffylactig ble mae'r system imiwnedd yn mynd i gyflwr goradweithio a all yn ei hun fygwth bywyd, hyd yn oed pan fod yr antigen ei hun yn ymddangos yn ddiberygl (er enghraifft antigenau cnau daear). Gall clefydau awtoimiwn, fel diabetes, ddigwydd pan fod y system imiwnedd yn trin proteinau arwyneb ar gorffgelloedd fel antigenau 'estron' yn amryfus. Yna mae'r system yn dechrau dinistrio’r celloedd hyn (Celloedd ynysig yn y pancreas yn achos diabetes math.[1]

Mae gan bron bob organeb ryw fath o system imiwnedd. Mae gan facteria system imiwnedd elfennol ar ffurf ensymau sy'n amddiffyn rhag heintiau firws. Esblygodd mecanweithiau imiwnedd sylfaenol eraill mewn planhigion ac anifeiliaid hynafol ac maent yn aros yn eu disgynyddion modern. Mae'r mecanweithiau hyn yn cynnwys ffagocytosis, peptidau gwrthficrobaidd a elwir yn amddiffynfeydd, a'r system ategu. Mae gan rai fertebratau, gan gynnwys bodau dynol, fecanweithiau amddiffyn gan gynnwys y gallu i addasu i adnabod pathogenau yn fwy effeithlon. Mae imiwnedd addasol (neu gaffaeledig) yn Crea'r imiwnedd addasol hwn gof imiwnolegol sy'n arwain at ymateb gwell yn y dyfodol â'r un pathogen hwnnw. Y broses hon o imiwnedd caffaeledig yw sail brechu.

Gall camweithredu'r system imiwnedd achosi clefydau hunanimiwn, clefydau llidiol a chanser. Mae diffyg imiwnedd yn digwydd pan fo'r system imiwnedd yn llai gweithgar nag arfer, gan arwain at heintiau a all fygwth bywyd. Gall hefyd fod yn ganlyniad i glefyd genetig fel diffyg imiwnedd cyfun difrifol, cyflyrau caffaeledig fel HIV / AIDS, neu ddefnyddio meddyginiaeth gwrthimiwnedd. Mae otoimiwnedd yn deillio o system imiwnedd orfywiog sy'n ymosod ar feinweoedd normal fel pe baent yn organebau estron. Mae clefydau hunanimiwn cyffredin yn cynnwys thyroiditis Hashimoto, arthritis gwynegol, diabetes mellitus math 1, a lupus erythematosus systemig. Mae imiwnoleg yn ymdrin ag astudio pob agwedd ar y system imiwnedd.

Amddiffyniad haenog golygu

Mae'r system imiwnedd yn amddiffyn ei gwesteiwr (hy yr unigolyn dan sylw) rhag haint gydag amddiffynfeydd haenog sy'n fwyfwy penodol ac arbenigol. Mae rhwystrau ffisegol yn atal pathogenau fel bacteria a firysau rhag mynd i mewn i'r organeb.[2] Os yw pathogen yn torri'r rhwystrau hyn, mae'r system imiwnedd gynhenid yn darparu ymateb uniongyrchol, nad yw'n arbenigol. Ceir systemau imiwnedd cynhenid ym mhob anifail.[3] Os bydd pathogenau'n osgoi'r ymateb cynchwynol yn llwyddiannus, mae gan fertebratau ail haen o amddiffyniad, y system imiwnedd addasol.[2] Yma, mae'r system imiwnedd yn addasu ei hymateb yn ystod haint i wella ei adnabyddiaeth o'r pathogen. Yna caiff yr ymateb gwell hwn ei gadw ar ôl i'r pathogen gael ei ddileu, ar ffurf cof imiwnolegol, ac mae'n caniatáu i'r system imiwnedd addasol ymosod yn gyflymach ac yn gryfach bob tro y deuir ar draws y pathogen hwn.[4][5]

Mae imiwnedd cynhenid ac ymaddasol yn dibynnu ar allu'r system imiwnedd i wahaniaethu rhwng moleciwlau hunan a moleciwlau nad ydynt yn hunan (non-self). Mewn imiwnoleg, mae hunan foleciwlau yn gydrannau o gorff organeb y gellir eu gwahaniaethu oddi wrth sylweddau tramor gan y system imiwnedd.[6] I'r gwrthwyneb, moleciwlau nad ydynt yn hunan yw'r rhai a gydnabyddir fel moleciwlau estron. Gelwir un dosbarth o foleciwlau nad ydynt yn hunan-foleciwlau yn antigenau ac fe'u diffinnir fel sylweddau sy'n rhwymo i dderbynyddion imiwn penodol ac yn ennyn ymateb imiwn.[7]

Rhwystrau arwyneb golygu

Mae sawl rhwystr yn amddiffyn organebau rhag haint, gan gynnwys rhwystrau mecanyddol, cemegol a biolegol. Mae cwtigl cwyraidd y rhan fwyaf o ddail, allsgerbwd pryfed, cregyn a philenni wyau, a chroen yn enghreifftiau o rwystrau mecanyddol sy'n amddiffyn yn gyntaf rhag unrhyw haint.[8] Ni ellir selio organebau'n 'n llwyr o'u hamgylcheddau, felly mae systemau'n gweithredu i amddiffyn agoriadau'r corff fel yr ysgyfaint, coluddion, a'r llwybrau a ddefnyddir i gael grared o biso a throeth.

Yn yr ysgyfaint, mae peswch a thisian yn alldaflu pathogenau a llidwyr eraill o'r llwybr anadlol yn fecanyddol. Mae gweithrediad fflysio dagrau ac wrin hefyd yn diarddel pathogenau'n fecanyddol, a diben mwcws sy'n sy'n cael ei greu gan y llwybr anadlol a gastroberfeddol yn dal y micro-organebau ymosodl mewn maglau (y mwcws).[9]

Mae rhwystrau cemegol hefyd yn amddiffyn rhag haint ee mae'r croen a'r llwybr anadlol yn secretu peptidau gwrthficrobaidd fel yr amddiffynfeyddβ (β-defensins).[10] Mewn poer ceir ensymau fel lysosym a ffosffolipas A2 ac fe'u ceir hefyd mewn dagrau a llaeth y fron sydd hefyd yn cynnwys elfennau gwrthfacterol .[11][12] O fewn secretiadau wain (y fagina) ceir rhwystrau cemegol yn dilyn menarche, sef cychwyn y misglwyf, pan fydd yr hylif yn dod ychydig yn fwy asidig, tra bod semen yn cynnwys amddiffynfeydd a sinc i ladd pathogenau.[13][14] Yn y stumog, mae asid gastrig yn amddiffyniad cemegol effeithiol yn erbyn pathogenau sy'n cael eu llyncu.[15]

O fewn y llwybrau cenhedlol-droethol a gastroberfeddol (genitourinary and gastrointestinal tracts), ceir flora commensal sy'n gweithredu fel rhwystr biolegol trwy gystadlu â bacteria pathogenig am fwyd a lle, ac mewn rhai achosion, newid amodau yn eu hamgylchedd, megis pH neu haearn sydd ar gael. O ganlyniad, mae'r tebygolrwydd y bydd pathogenau yn llwyddo i gyrraedd niferoedd digonol i achosi salwch yn cael ei leihau.[16]

System imiwnedd gynhenid golygu

Mae micro-organebau neu docsinau sy'n mynd i mewn i organeb yn llwyddiannus yn dod ar draws celloedd a mecanweithiau'r system imiwnedd gynhenid. Mae'r ymateb cynhenid fel arfer yn cael ei sbarduno pan fydd microbau'n cael eu hadnabod gan dderbynyddion adnabod patrwm,[17] neu pan fydd celloedd sydd wedi'u difrodi, neu eu hanafu neu dan straen yn anfon signalau larwm, ac mae llawer ohonynt yn cael eu cydnabod gan y yr un derbynyddion â'r rhai sy'n adnabod pathogenau.[18] Nid yw amddiffynfeydd imiwnedd cynhenid yn benodol, sy'n golygu bod y systemau hyn yn ymateb i bathogenau mewn ffordd generig.[8] Nid yw'r system hon yn rhoi imiwnedd parhaol yn erbyn pathogen. Y system imiwnedd gynhenid yw'r system amlycaf o amddiffyniad y person neu'r organeb,[3] a'r unig un mewn planhigion.[19]

Synhwyro imiwnedd golygu

Mae celloedd yn y system imiwnedd gynhenid yn defnyddio derbynyddion adnabod patrwm i adnabod strwythurau moleciwlaidd sy'n cael eu cynhyrchu gan bathogenau.[20] Maent yn broteinau a fynegir, yn bennaf, gan gelloedd y system imiwnedd gynhenid, megis celloedd dendritig, macroffagau, monocytes, neutrophils a chelloedd epithelial[8][21] i nodi dau ddosbarth o foleciwlau: patrymau moleciwlaidd sy'n gysylltiedig â phathogenau (pathogen-associated molecular patterns; PAMPs), sy'n gysylltiedig â phathogenau microbaidd, a phatrymau moleciwlaidd sy'n gysylltiedig â difrod (damage-associated molecular patterns; DAMPs), sy'n gysylltiedig â chydrannau o gelloedd y gwesteiwr sy'n cael eu rhyddhau yn ystod difrod celloedd neu gelloedd marw.[2]

Celloedd imiwnedd cynhenid golygu

 
Sgan microsgop electron sganio o waed dynol arferol sy'n cylchredeg. Gellir gweld celloedd coch y gwaed, nifer o gelloedd gwaed gwyn gan gynnwys lymffocytau ac un monocyte, un neutrophil, a llawer o blatennau bach siâp disg.

Mae rhai leukocytes (celloedd gwaed gwyn'; lleu fel lleu-ad, gwyn) yn gweithredu fel organebau ungell, annibynnol a dyma ail reng amddiffynnol y system imiwnedd gynhenid. Mae'r leukocytes cynhenid yn cynnwys y ffagosytau "proffesiynol" (macroffagau, neutrophils, a chelloedd dendritig). Mae'r celloedd hyn yn nodi ac yn dileu pathogenau, naill ai trwy ymosod ar bathogenau mwy trwy gyswllt neu trwy eu hamlyncu ac yna lladd y micro-organebau. Ymhlith y celloedd eraill sy'n rhan o'r ymateb cynhenid y mae: celloedd lymffoid cynhenid, celloedd mast, eosinoffiliau, basoffiliau, a chelloedd lladd naturiol.[22]

Mae ffagocytosis yn nodwedd bwysig o imiwnedd cynhenid cellog a gyflawnir gan gelloedd o'r enw ffagosytau sy'n amlyncu pathogenau neu ronynnau. Fel arfer, mae ffagosytau'n patrolio'r corff yn chwilio am bathogenau estron, ond gall y ctyocinau eu galw i leoliadau penodol.[8] Unwaith y bydd pathogen wedi'i amlyncu gan ffagosyt, mae'n cael ei ddal mewn fesigl mewngellog o'r enw phagosom, sydd wedyn yn asio â fesigl arall o'r enw lysosom i ffurfio phagolysosom. Lleddir y pathogen gan weithgaredd ensymau treulio neu yn dilyn byrst anadlol sy'n rhyddhau radicalau rhydd i'r phagolysosome.[23][24] Esblygodd phagocytosis fel modd o gaffael maetholion, ond ehangwyd y rôl hon mewn ffagosytau i gynnwys amlyncu pathogenau fel rham o'r mecanwaith amddiffyn.[25] Mae'n debyg mai ffagocytosis yw'r ffurf hynaf o amddiffyniad gwesteiwr (host defense), gan fod ffagosytau wedi'u nodi mewn anifeiliaid asgwrn cefn ac infertebratau.[26]

Mae neutrophils a macroffagau yn ffagosytau sy'n teithio ledled y corff yn chwilio am bathogenau goresgynnol.[27] Mae neutrophils i'w cael fel arfer yn y llif gwaed a dyma'r math mwyaf cyffredin o ffagosyt, sy'n cynrychioli 50% i 60% o gyfanswm y leukocytes.[28] Yn ystod cyfnod acíwt llid, mae neutrophils yn ymfudo i safle'r llid mewn proses a elwir yn chemotaxis, ac fel arfer dyma'r celloedd cyntaf i gyrraedd lleoliad yr haint. Mae macroffagau yn gelloedd amlbwrpas sy'n byw o fewn meinweoedd ac yn cynhyrchu amrywiaeth o gemegau gan gynnwys ensymau, proteinau ategu, a cytocinau, tra gallant hefyd weithredu fel sborionwyr sy'n cael gwared ar gelloedd sydd wedi eu treulio neu wedi eu malu, ac fel celloedd cyflwyno antigen ( APC) sy'n actifadu'r system imiwnedd addasol.[29]

Mae celloedd dendritig yn ffagosytau mewn meinweoedd sydd mewn cysylltiad â'r amgylchedd allanol; felly, maent wedi'u lleoli yn bennaf yn y croen, y trwyn, yr ysgyfaint, y stumog a'r coluddion.[30] Maent yn cael eu henwi am eu tebygrwydd i dendritau niwronaidd, gan fod gan y ddau amcanestyniadau tebyg i asgwrn cefn. Mae celloedd dendritig yn gyswllt rhwng meinweoedd y corff a'r systemau imiwnedd cynhenid ac addasol, gan eu bod yn cyflwyno antigenau i gelloedd-T, un o fathau allweddol o gelloedd y system imiwnedd addasol.[30]

Mae granulocytes yn leukocytes sydd â gronynnau yn eu cytoplasm. Yn y categori hwn ceir niwtroffiliau, mast-gelloedd, basoffiliau, ac eosinoffiliau. Mae celloedd mast yn byw mewn meinweoedd cyswllt a philenni gludiog, ac yn rheoleiddio'r ymateb llidiol.[31] Maent yn cael eu cysylltu gan amlaf ag alergedd ac anaffylacsis.[28] Cysylltir basoffilau ac eosinoffiliau â neutrophils. Maent yn secretu cyfryngwyr cemegol sy'n ymwneud ag amddiffyn rhag parasitiaid ac maent yn chwarae rhan mewn adweithiau alergaidd, fel asthma.[32]

Mae celloedd lymffoid cynhenid (ILCs) yn grŵp o gelloedd imiwnedd cynhenid sy'n deillio o epilydd lymffoid cyffredin (common lymphoid progenitor) ac sy'n perthyn i linach y lymffoid. Diffinnir y celloedd hyn gan absenoldeb derbynnydd celloedd B neu T (TCR) sy'n benodol i antigen oherwydd diffyg genyn ysgogi ailgyfuno. Nid yw ILCs yn mynegi marcwyr celloedd myeloid na dendritig.[33]

Mae celloedd lladd naturiol (NK) yn lymffocytau ac yn elfen o'r system imiwnedd gynhenid nad yw'n ymosod yn uniongyrchol ar ficrobau ymledol.[34] Yn hytrach, mae celloedd NK yn dinistrio celloedd gwesteiwr sydd dan fygythiad, fel celloedd tiwmor neu gelloedd wedi'u heintio â firws, gan gydnabod celloedd o'r fath trwy gyflwr a elwir yn "hunan-goll" (missing self). Mae'r term hwn yn disgrifio celloedd â lefelau isel o farciwr arwyneb-cell o'r enw MHC I (major histocompatibility complex) - sefyllfa a all godi mewn heintiadau firaol mewn celloedd cynnal.[35] Mae'r antigenau MHC hynny yn cael eu cydnabod gan dderbynyddion imiwnoglobwlin cell laddwyr sydd yn y bôn yn ffrwyno'r celloedd NK.[36]

Llid golygu

Mae llid yw un o ymatebion cyntaf y system imiwnedd i haint.[37] Symptomau llid yw cochni, chwyddo, gwres a phoen, sy'n cael eu hachosi gan gynnydd yn llif y gwaed i'r meinweoedd. Cynhyrchir llid gan eicosanoidau a cytocinau, sy'n cael eu rhyddhau gan gelloedd wedi eu hanafu neu eu heintio. Mae eicosanoidau'n cynnwys prostaglandinau sy'n cynhyrchu twymyn ac ymlediad (dilation) y pibellau gwaed sy'n gysylltiedig â llid, a leukotrienes sy'n denu rhai celloedd gwaed gwyn (leukocytes).[38][39] Mae cytocinau cyffredin yn cynnwys interleukins sy'n gyfrifol am gyfathrebu rhwng celloedd gwaed gwyn; cemocinau sy'n hybu cemotaxis; ac interfferonau sy'n cael effeithiau gwrth-firaol, megis cau synthesis protein yn y gell letyol.[40] Gall ffactorau twf a ffactorau sytotocsig gael eu rhyddhau hefyd. Mae'r cytocinau hyn a chemegau eraill yn recriwtio celloedd imiwn i safle'r haint ac yn hybu iachâd unrhyw feinwe sydd wedi'i niweidio ar ôl gwaredu'r pathogenau.[41] Mae'r derbynyddion adnabod patrwm o'r enw inflammasomes yn gyfadeiladau amlbrotein (sy'n cynnwys NLR, y protein addasu ASC, a'r moleciwl effeithydd pro-caspase-1) sy'n ffurfio mewn ymateb i PAMPs cytosolig a DAMPs, a'u swyddogaeth yw cynhyrchu ffurfiau gweithredol o'r cytocinau llidiol IL-1β ac IL-18.[42]

Amddiffynfeydd ategu golygu

Mae'r system ategu (Saesneg: humoral defenses) yn rhaeadr o fiocemegau sy'n ymosod ar arwynebau celloedd estron. Ceir ynddo dros 20 o wahanol broteinau ac mae wedi'i enwi am ei allu i "ategu" lladd pathogenau gan wrthgyrff . Ategiad yw prif elfen doniol yr ymateb imiwn cynhenid. [43] [44] Mae gan lawer o rywogaethau systemau ategol, gan gynnwys anifeiliaid nad ydynt yn famaliaid fel planhigion, pysgod, a rhai infertebratau . [35] Mewn bodau dynol, mae'r ymateb hwn yn cael ei actifadu trwy rwymo ategu i wrthgyrff sydd wedi'u cysylltu â'r microbau hyn neu drwy rwymo proteinau ategu i garbohydradau ar arwynebau microbau . Mae'r signal cydnabyddiaeth hwn yn sbarduno ymateb lladd cyflym. [45] Mae cyflymder yr ymateb yn ganlyniad i ymhelaethu signal sy'n digwydd ar ôl actifadu proteolytig dilyniannol moleciwlau cyflenwad, sydd hefyd yn broteasau. Ar ôl i broteinau ategu rhwymo'r microb i ddechrau, maent yn actifadu eu gweithgaredd proteas, sydd yn ei dro yn actifadu proteasau cyflenwad eraill, ac ati. Mae hyn yn cynhyrchu rhaeadru catalytig sy'n mwyhau'r signal cychwynnol trwy adborth cadarnhaol rheoledig. [46] Mae'r rhaeadru yn arwain at gynhyrchu peptidau sy'n denu celloedd imiwn, yn cynyddu athreiddedd fasgwlaidd, ac yn opsonize (cot) wyneb pathogen, gan ei farcio i'w ddinistrio. Gall y dyddodiad hwn o gyflenwad hefyd ladd celloedd yn uniongyrchol trwy amharu ar eu pilen plasma . [43]

Esblygodd y system imiwnedd addasol mewn fertebratau cynnar ac mae'n caniatáu ymateb imiwn cryfach yn ogystal â chof imiwnolegol, lle mae pob pathogen yn cael ei "gofio" gan antigen llofnod.[47] Mae'r ymateb imiwn addasol yn antigen-benodol ac mae angen cydnabod antigenau "non-self" penodol yn ystod proses a elwir yn gyflwyniad antigen. Mae penodoldeb antigen yn caniatáu cynhyrchu ymateb sydd wedi'u teilwra i bathogenau penodol neu gelloedd sydd wedi'u heintio â phathogenau. Mae'r ymatebion amrywiol hyn yn cael eu cynnal yn y corff gan "gelloedd cof". Pe bai pathogen yn heintio'r corff yr eildro, defnyddir y celloedd cof penodol hyn i'w ddileu yn gyflym.[2]

Antigen golygu

Mae celloedd y system imiwnedd addasol yn fathau arbennig o leucocytau, a elwir yn lymffosytau. Celloedd B a chelloedd T yw'r prif fathau o lymffocytau ac maent yn deillio o fôn-gelloedd hematopoietig ym mêr yr esgyrn.[48] Mae celloedd B yn rhan o'r ymateb imiwn humoral, tra bod celloedd T yn ymwneud ag ymateb imiwn trwy gyfrwng celloedd. Dim ond antigenau sydd wedi'u cyplysu â moleciwlau MHC Dosbarth I y mae cell-laddwyr T yn eu hadnabod, tra bod celloedd T cynorthwyol a chelloedd T rheoleiddiol yn adnabod antigenau sy'n gysylltiedig â moleciwlau MHC Dosbarth II yn unig. Mae'r ddau fecanwaith hyn o gyflwyno antigen yn adlewyrchu gwahanol rolau'r ddau fath o gell T. Trydydd isdeip, dibwys yw'r celloedd-T γδ sy'n adnabod antigenau cyfan nad ydynt yn rhwym i dderbynyddion MHC.[49] Mae'r celloedd T dwbl-bositif yn agored i amrywiaeth eang o hunan-antigenau yn y thymws, lle mae ïodin yn angenrheidiol ar gyfer ei ddatblygiad thymws a'i allu i weithio.[50]

Mewn cyferbyniad, mae'r derbynnydd antigen cell B yn foleciwl gwrthgorff ar wyneb cell B ac mae'n adnabod antigen brodorol (heb ei brosesu) heb unrhyw angen am brosesu antigen. Gall antigenau o'r fath fod yn foleciwlau mawr a geir ar arwynebau pathogenau, ond gallant hefyd fod yn haptens bychan (fel penisilin) sy'n gysylltiedig â moleciwl cludo.[51] Mae pob llinach o gell B yn mynegi gwrthgorff gwahanol, felly mae'r set gyflawn o dderbynyddion antigen cell B yn cynrychioli'r holl wrthgyrff y gall y corff eu cynhyrchu.[48] Pan fydd celloedd B neu T yn dod ar draws eu antigenau cysylltiedig maent yn lluosi a chynhyrchir llawer o "clonau" o'r celloedd sy'n targedu'r un antigen. Gelwir hyn yn ddetholiad clonal.[2]

Imiwnedd cyfryngol celloedd golygu

Mae dau fath o gelloedd T: y lladdgell T a'r gell T cynorthwyol. Yn ogystal, ceir celloedd T rheoleiddiol sydd â rôl mewn modiwleiddio ymateb imiwn.[52]

Lladdgelloedd T golygu

Mae lladdgelloedd T yn is-grŵp o gelloedd T sy'n lladd celloedd sydd wedi'u heintio â firysau (a phathogenau eraill), neu sydd fel arall wedi'u difrodi neu'n methuw gweithredu'n iawn.[53] Fel gyda chelloedd B, mae pob math o gell T yn adnabod antigen gwahanol. Mae lladdgelloedd T yn cael eu hactifadu pan fydd eu derbynnydd cell-T yn clymu i'r antigen penodol hwn gyda derbynnydd MHC Dosbarth I cell arall. Mae adnabod yr MHC:antigen hwn yn cael ei gynorthwyo gan gyd-dderbynnydd ar y gell T, o'r enw CD8. Yna mae'r gell T yn teithio ledled y corff i chwilio am gelloedd lle mae gan y derbynyddion MHC I yr antigen hwn. Pan fydd cell T wedi'i actifadu yn cysylltu â chelloedd o'r fath, mae'n rhyddhau cytotocsinau, fel perforin, sy'n ffurfio mandyllau ym mhilen plasma'r gell darged, gan ganiatáu i ïonau, dŵr a thocsinau fynd i mewn. Mae mynediad tocsin arall o'r enw granulysin (GNLY; proteas) yn peri i'r gell darged gael apoptosis.[54] Mae lladdgelloedd lletyol T yn arbennig o bwysig i atal firysau rhag dyblygu. Mae gweithrediad celloedd T yn cael ei reoli'n dynn ac yn gyffredinol mae angen signal actifadu MHC/antigen cryf iawn, neu signalau actifadu ychwanegol a ddarperir gan gelloedd T “cynorthwyyol” (gweler isod).[54]

Celloedd T cynorthwyol golygu

Mae celloedd T cymnorthwyol yn rheoleiddio'r ymateb imiwn cynhenid ac addasol ac yn helpu i benderfynu sut mae'r corff yn ymateb i bathogen penodol.[55][56] Nid oes gan y celloedd hyn unrhyw weithgaredd sytotocsig ac nid ydynt yn lladd celloedd heintiedig nac yn clirio pathogenau yn uniongyrchol. Yn lle hynny, maen nhw'n rheoli'r ymateb imiwn trwy gyfarwyddo celloedd eraill i gyflawni'r tasgau hyn.[57][58][2] Swyddogion neu negeswyr y fyddin!

Celloedd Gama delta T golygu

Mae gan celloedd gamma delta T (celloedd T γδ) dderbynnydd cell T amgen (TCR) yn hytrach na chelloedd T CD4 + a CD8 + (αβ) ac maent yn rhannu nodweddion celloedd T cynorthwyyol, celloedd T sytotocsig a chelloedd NK. Nid yw'r amodau sy'n cynhyrchu ymateb o gelloedd γδ T yn cael eu deall yn llawn. Yn yr un modd ag is-setiau celloedd T 'anghonfensiynol' eraill sy'n dwyn TCRs invarian, megis lladdgelloedd T naturiol cyfyngedig CD1d, mae celloedd T γδ yn pontio'r ffin rhwng imiwnedd cynhenid ac ymaddasol.[59] Ar un llaw, mae celloedd γδ T yn elfen o imiwnedd addasol gan eu bod yn aildrefnu genynnau TCR i gynhyrchu amrywiaeth derbynyddion a gallant hefyd ddatblygu ffenoteip cof; ar y llaw arall, mae'r is-setiau amrywiol hefyd yn rhan o'r system imiwnedd gynhenid, oherwydd gellir defnyddio derbynyddion TCR neu NK cyfyngedig fel derbynyddion adnabod patrwm. Er enghraifft, mae niferoedd mawr o gelloedd Vγ9/Vδ2 T dynol yn ymateb o fewn oriau i foleciwlau cyffredin a gynhyrchir gan ficrobau, ac mae celloedd Vδ1+ T cyfyngedig iawn mewn epithelia yn ymateb i gelloedd epithelial dan straen.[49]

Mae'r system imiwnedd yn ymwneud â llawer o agweddau ar reoleiddio ffisioleg y corff drwy ryngweithio'n agos â systemau eraill, megis y systemau endocrin[60][61] a'r systemau nerfol[62][63][64]. Mae'r system imiwnedd hefyd yn chwarae rhan hanfodol mewn embryogenesis sef datblygiad yr embryo, yn ogystal ag mewn atgyweirio ac adfywio meinweoedd.[65]

Hormonau golygu

Gall hormonau weithredu fel imiwnofodiwlyddion, gan newid sensitifrwydd y system imiwnedd. Er enghraifft, gwyddys bod hormonau rhyw benywaidd yn imiwnogyddion o ymatebion imiwn addasol[66] a chynhenid.[67] Mae rhai clefydau hunanimiwn fel lupus erythematosus yn taro merched, ac mae eu cychwyn yn aml yn cyd-fynd â glasoed. Mewn cyferbyniad, mae'n ymddangos bod hormonau rhyw gwrywaidd fel testosteron yn gwrthimiwnaidd (immunosuppressive).[66][68] Mae'n ymddangos bod hormonau eraill yn rheoleiddio'r system imiwnedd hefyd, yn fwyaf nodedig prolactin, hormon twf a fitamin D.[69][70]

Fitamin D golygu

Pan fydd cell T yn dod ar draws pathogen estron, mae'n ymestyn derbynnydd fitamin D. Dyfais signalau yw hon sy'n caniatáu i'r gell-T glymu i ffurf weithredol fitamin D, yr hormon steroid calcitriol. Mae gan gelloedd T berthynas symbiotig â fitamin D. Nid yn unig y mae'r gell T yn ymestyn derbynnydd fitamin D, ond mae'r gell T yn mynegi'r genyn CYP27B1, sef y genyn sy'n gyfrifol am drosi'r fersiwn cyn-hormon o fitamin D, calcidiol yn galcitriol. Dim ond ar ôl rhwymo i'r calcitriol y gall celloedd T gyflawni eu swyddogaeth. Celloedd system imiwnedd eraill y gwyddys eu bod yn mynegi CYP27B1 ac felly'n actifadu fitamin D calcidiol, yw celloedd dendritig, keratinocytes a macroffagau.[71][72]

Cwsg a gorffwys golygu

Mae cwsg a gorffwys yn effeithio ar y system imiwnedd, ac mae amddifadu'r corff o gwsg yn niweidiol iawn.[73] Mae'n ymddangos bod dolenni adborth cymhleth sy'n cynnwys cytocinau, megis interleukin-1 a ffactor necrosis tiwmor-α a gynhyrchir mewn ymateb i haint, hefyd yn chwarae rhan wrth reoleiddio cwsg symudiad llygaid nad yw'n gyflym (REM).[74] Felly gall yr ymateb imiwn i haint arwain at newidiadau i'r cylch cwsg, gan gynnwys cynnydd mewn cwsg tonnau-araf o'i gymharu â chwsg REM.[75]

Brechu golygu

 
Brechiad polio yn yr Aifft

Mae cof gweithredol hirdymor yn cael ei digwydd yn dilyn haint trwy actifadu celloedd B a T. Gellir cynhyrchu imiwnedd gweithredol yn artiffisial hefyd, trwy frechu. Yr egwyddor y tu ôl i frechu (a elwir hefyd yn imiwneiddiad) yw cyflwyno antigen o bathogen i ysgogi'r system imiwnedd a datblygu imiwnedd penodol yn erbyn y pathogen penodol hwnnw heb achosi afiechyd sy'n gysylltiedig â'r organeb honno.[76]

Gyda chlefydau heintus yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth yn y boblogaeth ddynol, brechu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o drin y system imiwnedd y mae'r ddynolryw wedi'i datblygu.[48][77]

Hanes imiwnoleg golygu

 
Dyfarnwyd Gwobr Nobel i Paul Ehrlich (1854–1915) ym 1908 am ei gyfraniadau i imiwnoleg.[78]

Mae imiwnoleg yn wyddor sy'n archwilio strwythur a swyddogaeth y system imiwnedd. Fe'i hystyrir yn rhan o feddygaeth, lle tarddodd, ac o astudiaethau cynnar ar achosion imiwnedd i afiechyd. Roedd y cyfeiriad cynharaf y gwyddys amdano at imiwnedd yn ystod pla Athen yn 430 CC. Nododd Thucydides y gallai pobl a oedd wedi gwella ar ôl pwl blaenorol o'r afiechyd nyrsio'r sâl heb ddal y salwch yr eildro.[79] Yn y 18g, arbrofodd Pierre-Louis Moreau de Maupertuis â gwenwyn sgorpion a sylwodd fod rhai cŵn a llygod yn imiwn i'r gwenwyn hwn.[80] Yn y 10g, ysgrifennodd y meddyg Persiaidd al-Razi (a elwir hefyd yn Rhazes) y ddamcaniaeth gyntaf a gofnodwyd o imiwnedd caffaeledig,[81][82] gan nodi bod pwl o'r frech wen yn amddiffyn ei goroeswyr rhag heintiau yn y dyfodol. Er iddo egluro'r imiwnedd o ran "lleithder gormodol" yn cael ei ddiarddel o'r gwaed - felly atal ail ddigwyddiad o'r afiechyd - esboniodd y ddamcaniaeth hon lawer o sylwadau am y frech wen y gwyddys amdanynt yn ystod y cyfnod hwn.[82]

Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y sylwadau hyn ac eraill o imiwnedd caffaeledig gan Louis Pasteur yn ei ddatblygiad o frechu a'i ddamcaniaeth germau arfaethedig o glefydau.[83] Gwrthwynebodd Pasteur ddamcaniaethau cyfoes am afiechyd, megis y ddamcaniaeth miasma. Nid tan brofion Robert Koch yn 1891, y dyfarnwyd Gwobr Nobel iddo (yn 1905), ac y cadarnhawyd mai micro-organebau oedd achos clefydau heintus.[84] Cadarnhawyd fod firysau yn bathogenau dynol ym 1901, pan ddarganfuwyd firws y dwymyn felen gan Walter Reed.[85]


Llyfryddiaeth gyffredinol golygu

  • Alberts B, Johnson A, Lewis J, Raff M, Roberts K, Walters P (2002). Molecular Biology of the Cell (arg. Fourth). New York and London: Garland Science. ISBN 978-0-8153-3218-3.
  • Bertok L, Chow D (2005). Bertok L, Chow D (gol.). Natural Immunity. 5 (arg. 1st). ISBN 978-0-44451-755-5.
  • Iriti M (2019). Plant Innate Immunity 2.0. Basel: MDPI. doi:10.3390/books978-3-03897-581-6. ISBN 978-3-03897-580-9. OCLC 1105775088.
  • Ciccone CD (2015). Pharmacology in Rehabilitation (Contemporary Perspectives in Rehabilitation) (arg. 5th). F.A. Davis Company. ISBN 978-0-80364-029-0.
  • Janeway CA, Travers P, Walport M (2001). Immunobiology (arg. 5th). Garland Science.
  • Janeway CA (2005). Immunobiology (arg. 6th). Garland Science. ISBN 0-443-07310-4.
  • Krishnaswamy G, Ajitawi O, Chi DS (2006). "The human mast cell: an overview". Mast Cells. Methods in Molecular Biology. 315. tt. 13–34. doi:10.1385/1-59259-967-2:013. ISBN 1-59259-967-2. PMID 16110146.
  • Murphy K, Weaver C (2016). Immunobiology (arg. 9). Garland Science. ISBN 978-0-8153-4505-3.
  • Rajalingam R (2012). Immunogenetics. Methods in Molecular Biology. 882. tt. 391–414. doi:10.1007/978-1-61779-842-9_23. ISBN 978-1-61779-841-2. PMID 22665247.
  • Reece J (2011). Campbell biology. Frenchs Forest, N.S.W: Pearson Australia. ISBN 978-1-4425-3176-5. OCLC 712136178.
  • Silverstein AM (1989). A History of Immunology. Academic Press. ISBN 978-0-08-092583-7.
  • Sompayrac L (2019). How the immune system works. Hoboken, NJ: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1-119-54212-4. OCLC 1083261548.
  • Stvrtinová V, Jakubovský J, Hulín I (1995). Pathophysiology: Principles of Disease. Computing Centre, Slovak Academy of Sciences: Academic Electronic Press.
  • Wira CR, Crane-Godreau M, Grant K (2004). Ogra PL, Mestecky J, Lamm ME, Strober W, McGhee JR, Bienenstock J (gol.). Mucosal Immunology. San Francisco: Elsevier. ISBN 0-12-491543-4.

Nodyn:Library resources box

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Sompayrac 2019.
  3. 3.0 3.1 "Reconstructing immune phylogeny: new perspectives". Nature Reviews. Immunology 5 (11): 866–79. Nov 2005. doi:10.1038/nri1712. PMC 3683834. PMID 16261174. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3683834.
  4. "Lineage relationship of effector and memory T cells". Current Opinion in Immunology 25 (5): 556–63. October 2013. doi:10.1016/j.coi.2013.09.003. PMC 3858177. PMID 24148236. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3858177.
  5. "Memory B cells". Nature Reviews. Immunology 15 (3): 149–59. March 2015. doi:10.1038/nri3802. PMID 25677494.
  6. Sompayrac 2019, t. 11.
  7. Sompayrac 2019, t. 146.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 Alberts et al. 2002.
  9. "Pulmonary defences to acute respiratory infection". British Medical Bulletin 61 (1): 1–12. 2002. doi:10.1093/bmb/61.1.1. PMID 11997295.
  10. "Host antimicrobial defence peptides in human disease". Current Topics in Microbiology and Immunology 306: 67–90. 2006. doi:10.1007/3-540-29916-5_3. ISBN 978-3-540-29915-8. PMID 16909918.
  11. "Phospholipase A(2) in rabbit tears: a host defense against Staphylococcus aureus". Investigative Ophthalmology & Visual Science 42 (10): 2347–54. Sep 2001. PMID 11527949. http://iovs.arvojournals.org/article.aspx?articleid=2200058.
  12. "Lysozyme in human body fluids". Clinica Chimica Acta; International Journal of Clinical Chemistry 57 (3): 205–09. Dec 1974. doi:10.1016/0009-8981(74)90398-2. PMID 4434640.
  13. "Prostatic antibacterial factor. Identity and significance". Urology 7 (2): 169–77. Feb 1976. doi:10.1016/0090-4295(76)90305-8. PMID 54972. https://archive.org/details/sim_urology_1976-02_7_2/page/169.
  14. "Antibacterial properties of the sperm-binding proteins and peptides of human epididymis 2 (HE2) family; salt sensitivity, structural dependence and their interaction with outer and cytoplasmic membranes of Escherichia coli". The Biochemical Journal 372 (Pt 2): 473–83. Jun 2003. doi:10.1042/BJ20030225. PMC 1223422. PMID 12628001. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1223422.
  15. "The role of gastric acid in preventing foodborne disease and how bacteria overcome acid conditions". J Food Prot 66 (7): 1292–1303. 2003. doi:10.4315/0362-028X-66.7.1292. PMID 12870767. https://archive.org/details/sim_journal-of-food-protection_2003-07_66_7/page/1292.
  16. "Lactic acid bacteria and human health". Annals of Medicine 22 (1): 37–41. Feb 1990. doi:10.3109/07853899009147239. PMID 2109988. https://archive.org/details/sim_annals-of-medicine_1990-02_22_1/page/37.
  17. "Recognition of microorganisms and activation of the immune response". Nature 449 (7164): 819–26. Oct 2007. Bibcode 2007Natur.449..819M. doi:10.1038/nature06246. PMID 17943118.
  18. "The danger model: a renewed sense of self". Science 296 (5566): 301–05. Apr 2002. Bibcode 2002Sci...296..301M. doi:10.1126/science.1071059. PMID 11951032. http://www.scs.carleton.ca/~soma/biosec/readings/matzinger-science.pdf.
  19. Iriti 2019.
  20. "Pathogen recognition by the innate immune system". International Reviews of Immunology 30 (1): 16–34. February 2011. doi:10.3109/08830185.2010.529976. PMID 21235323.
  21. "The inflammasomes". Cell 140 (6): 821–32. March 2010. doi:10.1016/j.cell.2010.01.040. PMID 20303873.
  22. Sompayrac 2019, tt. 1–4.
  23. "Relationship between ultrastructure and specific functions of macrophages". Comparative Immunology, Microbiology and Infectious Diseases 8 (2): 119–33. 1985. doi:10.1016/0147-9571(85)90039-6. PMID 3910340.
  24. "Antimicrobial functions of mononuclear phagocytes". Journal of Immunological Methods 174 (1–2): 185–94. Sep 1994. doi:10.1016/0022-1759(94)90021-3. PMID 8083520.
  25. "Phagocytosis and the actin cytoskeleton". Journal of Cell Science 114 (Pt 6): 1061–77. Mar 2001. doi:10.1242/jcs.114.6.1061. PMID 11228151. https://journals.biologists.com/jcs/cgi/pmidlookup. Adalwyd 6 November 2009.
  26. "Innate immunity in lophotrochozoans: the annelids". Current Pharmaceutical Design 12 (24): 3043–50. 2006. doi:10.2174/138161206777947551. PMID 16918433. https://pdfs.semanticscholar.org/da11/601b7ba0121f210136e0317729e3f367dd8c.pdf.
  27. "Leukocyte-epithelial interactions". Current Opinion in Cell Biology 15 (5): 557–64. Oct 2003. doi:10.1016/S0955-0674(03)00103-0. PMID 14519390.
  28. 28.0 28.1 Stvrtinová, Jakubovský & Hulín 1995.
  29. "Elucidation of monocyte/macrophage dynamics and function by intravital imaging". Journal of Leukocyte Biology 98 (3): 319–32. September 2015. doi:10.1189/jlb.4RI0115-006RR. PMC 4763596. PMID 26162402. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4763596.
  30. 30.0 30.1 "Antigen presentation and T cell stimulation by dendritic cells". Annual Review of Immunology 20 (1): 621–67. 2002. doi:10.1146/annurev.immunol.20.100301.064828. PMID 11861614.
  31. Krishnaswamy, Ajitawi & Chi 2006.
  32. "The eosinophil: the cell and its weapons, the cytokines, its locations". Seminars in Respiratory and Critical Care Medicine 27 (2): 117–27. Apr 2006. doi:10.1055/s-2006-939514. PMID 16612762. https://archive.org/details/sim_seminars-in-respiratory-and-critical-care-medicine_2006-04_27_2/page/117.
  33. "Innate lymphoid cells: emerging insights in development, lineage relationships, and function". Annual Review of Immunology 30: 647–75. 2012. doi:10.1146/annurev-immunol-020711-075053. PMID 22224763.
  34. "The Memories of NK Cells: Innate-Adaptive Immune Intrinsic Crosstalk". Journal of Immunology Research 2016: 1376595. 2016. doi:10.1155/2016/1376595. PMC 5204097. PMID 28078307. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5204097.
  35. 35.0 35.1 Bertok & Chow 2005.
  36. Rajalingam 2012.
  37. "Innate immune recognition of viral infection". Nature Immunology 7 (2): 131–37. Feb 2006. doi:10.1038/ni1303. PMID 16424890.
  38. "Prostaglandins in health and disease: an overview". Seminars in Arthritis and Rheumatism 36 (1): 37–49. Aug 2006. doi:10.1016/j.semarthrit.2006.03.005. PMID 16887467.
  39. "The role of leukotrienes in airway inflammation". The Journal of Allergy and Clinical Immunology 118 (4): 789–98; quiz 799–800. Oct 2006. doi:10.1016/j.jaci.2006.08.009. PMID 17030228. https://archive.org/details/sim_journal-of-allergy-and-clinical-immunology_2006-10_118_4/page/789.
  40. "Chemokines and chemokine receptors: their manifold roles in homeostasis and disease". Cellular & Molecular Immunology 1 (2): 95–104. Apr 2004. PMID 16212895. http://www.cmi.ustc.edu.cn/1/2/95.pdf.
  41. "Inflammatory cells during wound repair: the good, the bad and the ugly". Trends in Cell Biology 15 (11): 599–607. Nov 2005. doi:10.1016/j.tcb.2005.09.002. PMID 16202600.
  42. "NOD-like receptors and inflammasomes: A review of their canonical and non-canonical signaling pathways". Archives of Biochemistry and Biophysics 670: 4–14. February 2019. doi:10.1016/j.abb.2019.02.008. PMID 30772258.
  43. 43.0 43.1 "The role of the complement system in innate immunity". Immunologic Research 33 (2): 103–12. 2005. doi:10.1385/IR:33:2:103. PMID 16234578.
  44. "Humoral pattern recognition and the complement system". Scandinavian Journal of Immunology 78 (2): 181–93. August 2013. doi:10.1111/sji.12070. PMID 23672641.
  45. "Control of the complement system". Advances in Immunology 61: 201–283. 1996. doi:10.1016/S0065-2776(08)60868-8. ISBN 978-0-12-022461-6. PMID 8834497. https://archive.org/details/advancesinimmuno61dixo/page/201.
  46. "Proteases of the complement system". Biochemical Society Transactions 32 (Pt 1): 21–27. Feb 2004. doi:10.1042/BST0320021. PMID 14748705. http://pdfs.semanticscholar.org/9df4/e40fdcd4e1ba21a7047dca82ddf683c11d61.pdf.
  47. "The evolution of adaptive immunity". Annual Review of Immunology 24 (1): 497–518. 2006. doi:10.1146/annurev.immunol.24.021605.090542. PMID 16551257.
  48. 48.0 48.1 48.2 Janeway 2005.
  49. 49.0 49.1 "gammadelta T cells link innate and adaptive immune responses". Chemical Immunology and Allergy 86: 151–83. 2005. doi:10.1159/000086659. ISBN 3-8055-7862-8. PMID 15976493.
  50. "Iodine, thymus, and immunity". Nutrition 25 (9): 977–79. September 2009. doi:10.1016/j.nut.2009.06.002. PMID 19647627.
  51. Janeway, Travers & Walport 2001.
  52. Sompayrac 2019, tt. 7–8.
  53. "CD8+ T cell effector mechanisms in resistance to infection". Annual Review of Immunology 18 (1): 275–308. 2000. doi:10.1146/annurev.immunol.18.1.275. PMID 10837060.
  54. 54.0 54.1 "T-cell receptor signaling events triggering granule exocytosis". Critical Reviews in Immunology 26 (3): 265–90. 2006. doi:10.1615/CritRevImmunol.v26.i3.40. PMID 16928189.
  55. "Functional diversity of helper T lymphocytes". Nature 383 (6603): 787–93. Oct 1996. Bibcode 1996Natur.383..787A. doi:10.1038/383787a0. PMID 8893001.
  56. "Helper T cell-regulated B cell immunity". Current Topics in Microbiology and Immunology 311: 59–83. 2006. doi:10.1007/3-540-32636-7_3. ISBN 978-3-540-32635-9. PMID 17048705.
  57. "Functional diversity of helper T lymphocytes". Nature 383 (6603): 787–93. Oct 1996. Bibcode 1996Natur.383..787A. doi:10.1038/383787a0. PMID 8893001.
  58. "Helper T cell-regulated B cell immunity". Current Topics in Microbiology and Immunology 311: 59–83. 2006. doi:10.1007/3-540-32636-7_3. ISBN 978-3-540-32635-9. PMID 17048705.
  59. "Immunosurveillance and immunoregulation by gammadelta T cells". The Journal of Investigative Dermatology 126 (1): 25–31. Jan 2006. doi:10.1038/sj.jid.5700003. PMID 16417214.
  60. "Immunoendocrine communication via the hypothalamo-pituitary-adrenal axis in autoimmune diseases". Endocrine Reviews 14 (5): 539–63. October 1993. doi:10.1210/edrv-14-5-539. PMID 8262005.
  61. "Physiology and pathology of an immunoendocrine feedback loop". Immunology Today 9 (6): 163–5. June 1988. doi:10.1016/0167-5699(88)91289-3. PMID 3256322.
  62. "Immunology. Neuroimmune communication". Science 334 (6052): 47–8. October 2011. Bibcode 2011Sci...334...47T. doi:10.1126/science.1213099. PMID 21980100.
  63. "Neuro-Immune Interactions at Barrier Surfaces". Cell 165 (4): 801–11. May 2016. doi:10.1016/j.cell.2016.04.041. PMC 4871617. PMID 27153494. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4871617.
  64. "Neuroimmune communication". Nature Neuroscience 20 (2): 127. February 2017. doi:10.1038/nn.4496. PMID 28092662.
  65. "The role of the innate immune response regulatory gene ABCF1 in mammalian embryogenesis and development". PLOS ONE 12 (5): e0175918. 2017. Bibcode 2017PLoSO..1275918W. doi:10.1371/journal.pone.0175918. PMC 5438103. PMID 28542262. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5438103.
  66. 66.0 66.1 Wira, Crane-Godreau & Grant 2004.
  67. "Estrogen as an immunomodulator". Clinical Immunology 113 (3): 224–30. Dec 2004. doi:10.1016/j.clim.2004.05.011. PMID 15507385.

    "Secretory leukocyte protease inhibitor (SLPI) concentrations in cervical mucus of women with normal menstrual cycle". Molecular Human Reproduction 5 (7): 656–61. Jul 1999. doi:10.1093/molehr/5.7.656. PMID 10381821.

    "Sex hormones influence on the immune system: basic and clinical aspects in autoimmunity". Lupus 13 (9): 635–38. 2004. doi:10.1191/0961203304lu1094oa. PMID 15485092.

    "Presence of secretory leukocyte protease inhibitor in human endometrium and first trimester decidua suggests an antibacterial protective role". Molecular Human Reproduction 6 (2): 191–96. Feb 2000. doi:10.1093/molehr/6.2.191. PMID 10655462.
  68. "Influence of physiological androgen levels on wound healing and immune status in men". The Aging Male 8 (3–4): 166–74. 2005. doi:10.1080/13685530500233847. PMID 16390741.
  69. "The roles of prolactin, growth hormone, insulin-like growth factor-I, and thyroid hormones in lymphocyte development and function: insights from genetic models of hormone and hormone receptor deficiency". Endocrine Reviews 21 (3): 292–312. Jun 2000. doi:10.1210/er.21.3.292. PMID 10857555.
  70. "Noncalcemic actions of vitamin D receptor ligands". Endocrine Reviews 26 (5): 662–87. Aug 2005. doi:10.1210/er.2004-0002. PMID 15798098.
  71. "Vitamin D controls T cell antigen receptor signaling and activation of human T cells". Nature Immunology 11 (4): 344–49. Apr 2010. doi:10.1038/ni.1851. PMID 20208539.
  72. "DCs metabolize sunlight-induced vitamin D3 to 'program' T cell attraction to the epidermal chemokine CCL27". Nature Immunology 8 (3): 285–93. Mar 2007. doi:10.1038/ni1433. PMID 17259988.
  73. "Sick and tired: Does sleep have a vital role in the immune system?". Nature Reviews. Immunology 4 (6): 457–67. Jun 2004. doi:10.1038/nri1369. PMID 15173834.
  74. "Humoral links between sleep and the immune system: research issues". Annals of the New York Academy of Sciences 992 (1): 9–20. May 2003. Bibcode 2003NYASA.992....9K. doi:10.1111/j.1749-6632.2003.tb03133.x. PMID 12794042.
  75. "Links between the innate immune system and sleep". The Journal of Allergy and Clinical Immunology 116 (6): 1188–98. Dec 2005. doi:10.1016/j.jaci.2005.08.005. PMID 16337444. https://archive.org/details/sim_journal-of-allergy-and-clinical-immunology_2005-12_116_6/page/1188.
  76. Reece 2011.
  77. Death and DALY estimates for 2002 by cause for WHO Member States. World Health Organization. Retrieved on 1 January 2007.
  78. "The Nobel Prize in Physiology or Medicine 1908". The Nobel Prize. Cyrchwyd 8 January 2007.
  79. "The epidemic of Athens, 430–426 BC". South African Medical Journal = Suid-Afrikaanse Tydskrif vir Geneeskunde 88 (1): 50–53. Jan 1998. PMID 9539938.
  80. "Maupertuis et la biologie". Revue d'histoire des sciences et de leurs applications 7 (1): 60–78. 1954. doi:10.3406/rhs.1954.3379.
  81. 82.0 82.1 Silverstein 1989.
  82. "Vaccines: past, present and future". Nature Medicine 11 (4 Suppl): S5–11. Apr 2005. doi:10.1038/nm1209. PMC 7095920. PMID 15812490. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7095920.
  83. The Nobel Prize in Physiology or Medicine 1905 Nobelprize.org Retrieved on 8 January 2009.
  84. Major Walter Reed, Medical Corps, U.S. Army Walter Reed Army Medical Center. Retrieved on 8 January 2007.