Llofruddiaethau Tylenol Chicago
Cyfres o farwolaethau gwenwyn oedd llofruddiaethau Tylenol Chicago o ganlyniad ymyrryd â chyffuriau yn ardal fetropolitan Chicago ym 1982. Roedd yr holl ddioddefwyr wedi cymryd capsiwlau acetaminophen brand Tylenol a oedd wedi eu gorchuddio â syanid.[1] Bu farw cyfanswm o saith person o'r gwenwyno gwreiddiol, gyda sawl marwolaeth arall mewn troseddau copi dilynol.
Ni chyhuddwyd na chafwyd unrhyw un yn euog erioed o'r gwenwyno. Cafwyd James William Lewis, un o drigolion Dinas Efrog Newydd, yn euog o gribddeiliaeth am anfon llythyr at Johnson & Johnson yn cymryd cyfrifoldeb am y marwolaethau ac yn mynnu $1 miliwn i'w hatal, ond ni ddaeth tystiolaeth erioed yn ei glymu i'r gwenwyno gwirioneddol.
Arweiniodd y digwyddiadau at ddiwygiadau ym mhecynnu sylweddau dros-y-cownter ac at ddeddfau gwrth-ymyrryd ffederal. Mae gweithredoedd Johnson & Johnson i leihau marwolaethau a rhybuddio’r cyhoedd am risgiau gwenwyno wedi cael eu canmol yn eang fel ymateb rhagorol i argyfwng o’r fath.[2] Ond mae Scott Bartz, aelod o'r diwydiant fferyllol, wedi cymryd safbwynt gwahanol yn ei ddatguddiad yn 2011, The Tylenol Mafia. Mae'n cyflwyno'r achos dros heintiad rhywle yn y broses ail-becynnu yn y gadwyn ddosbarthu na ymchwiliwyd iddo gan y cyfryngau na'r heddlu.[3] Mae hefyd tystiolaeth yn rhoi cymhelliant cryf i Johnson & Johnson cuddio'r mater.
Digwyddiadau
golyguAr 29 Medi 1982, bu farw Mary Kellerman, (12) o Bentref Elk Grove, Illinois ar ôl cymryd capsiwl o Dylenol.[4] Bu farw Adam Janus (27) o Arlington Heights, Illinois, yn yr ysbyty yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar ôl cymryd Tylenol; bu farw ei frawd Stanley (25) a'i chwaer-yng-nghyfraith Theresa (19), o Lisle, Illinois, yn ddiweddarach hefyd ar ôl cymryd Tylenol o'r un botel. O fewn y dyddiau nesaf, bu farw Mary McFarland (31) o Elmhurst, Illinois, Paula Prince (35) o Chicago, a Mary Reiner (27) o Winfield i gyd mewn digwyddiadau tebyg.[5][6][7] Unwaith y sylweddolwyd bod yr holl bobl hyn wedi cymryd Tylenol yn ddiweddar, cynhaliwyd profion yn gyflym, a ddatgelodd yn fuan bod syanid yn bresennol yn y capsiwlau. Yna cyhoeddwyd rhybuddion trwy'r cyfryngau a phatrolau yn defnyddio uchelseinyddion, yn rhybuddio trigolion ledled ardal fetropolitan Chicago i roi'r gorau i ddefnyddio cynhyrchion Tylenol.
Roedd yr heddlu yn gwybod cafodd gwahanol ffynonellau Tylenol eu hymyrryd â hwy. Felly gwnaethant ddiystyru'r gweithgynhyrchwyr, oherwydd daeth y poteli heintiedig o wahanol gwmnïau fferyllol, ac roedd y saith marwolaeth i gyd wedi digwydd yn ardal Chicago. Felly diystyrwyd difrodi yn ystod y cynhyrchiad. Yn lle hynny, daeth yr heddlu i'r casgliad eu bod yn debygol o chwilio am rywun a chafodd caffael ar boteli Tylenol o amryw o werthwyr.[4] Ar ben hynny, daethant i'r casgliad mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol oedd archfarchnadoedd a siopau cyffuriau, lle dros gyfnod o sawl wythnos gwnaeth y troseddwr ychwanegu'r syanid at y capsiwlau ac yna eu dychwelyd i'r siopau i roi'r poteli yn ôl ar y silffoedd yn drefnus.[5] Yn ogystal â'r pum potel a achosodd farwolaethau, darganfuwyd tair potel heintiedig arall.
Mewn ymdrech i dawelu meddwl y cyhoedd, dosbarthodd Johnson & Johnson rybuddion i ysbytai a dosbarthwyr, ac ataliwyd cynhyrchiad a hysbysebu Tylenol. Ar 5 Hydref 5 1982 roedd ad-alwad cynnyrch Tylenol ledled y wlad; amcangyfrifwyd bod 31 miliwn o boteli mewn cylchrediad, gyda gwerth manwerthu o dros $100 miliwn.[8] Hysbysebodd y cwmni hefyd yn y cyfryngau cenedlaethol am unigolion i beidio defnyddio unrhyw un o'i gynnyrch a oedd yn cynnwys acetaminophen ar ôl penderfynu mai dim ond y capsiwlau hyn cafodd eu hymyrred â hwy. Cynigiodd Johnson & Johnson hefyd i gyfnewid yr holl gapsiwlau Tylenol a brynwyd eisoes gan y cyhoedd am dabledi solet.
Ymchwiliad
golyguYn ystod yr ymchwiliadau cychwynnol, anfonodd dyn o’r enw James William Lewis lythyr at Johnson & Johnson yn mynnu $1 miliwn i atal y llofruddiaethau a achoswyd gan syanid.[5] Nid oedd yr heddlu'n gallu ei gysylltu â'r troseddau ar ôl ei adnabod trwy'r olion bysedd a'r amlen a ddefnyddiwyd, gan ei fod ef a'i wraig yn byw yn Ninas Efrog Newydd ar y pryd. Fe'i cafwyd yn euog, fodd bynnag, o gribddeiliaeth, ac yn ddiweddarach treuliodd 13 mlynedd yn y carchar o'i ddedfryd 20 mlynedd. Adroddodd WCVB Sianel 5 o Boston fod dogfennau llys a ryddhawyd yn gynnar yn 2009 yn dangos bod ymchwilwyr yr Adran Gyfiawnder wedi dod i’r casgliad taw Lewis oedd yn gyfrifol am y gwenwyno, er gwaethaf y ffaith nad oedd ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i’w gyhuddo. Ym mis Ionawr 2010, cyflwynodd Lewis a'i wraig samplau DNA ac olion bysedd i awdurdodau. Dywedodd Lewis "os yw'r FBI yn ei chwarae'n deg, does gen i ddim byd i boeni amdano". Mae Lewis yn parhau i wadu pob cyfrifoldeb am y gwenwyno.[9][10]
Ôl-effeithiau
golyguCopïwyr
golyguDigwyddodd cannoedd o ymosodiadau copi yn gysylltiedig â Thylenol, meddyginiaethau dros-y-cownter eraill, a chynhyrchion eraill o amgylch yr Unol Daleithiau yn syth ar ôl marwolaethau Chicago.[4][11]
Digwyddodd tair marwolaeth arall ym 1986 o gapsiwlau gelatin heintiedig.[12] Bu farw dynes yn Yonkers, Efrog Newydd, ar ôl amlyncu capsiwlau Tylenol wedi'u gorchuddio â syanid".[13] Ymyrrwyd â chapsiwlau Excedrin yn nhalaith Washington, gan arwain at farwolaethau Susan Snow a Bruce Nickell o wenwyn syanid, ac arestiwyd gwraig Nickell, Stella, yn y pen draw am ei gweithredoedd bwriadol yn y troseddau â'r ddwy lofruddiaeth.[14] Yr un flwyddyn honno, cafodd Encaprin ei adalw gan Procter & Gamble ar ôl ffug ymyrraeth yn Chicago a Detroit, arweiniodd hwn at ostyngiad mewn gwerthiant ac i dynnu’r cyffur o’r farchnad.[15]
Yn 1986 bu farw myfyriwr o Brifysgol Texas, Kenneth Faries, ar ôl wenwyn syanid.[16] Penderfynwyd mai capsiwlau Tampered Anacin oedd ffynhonnell y syanid. Dyfarnwyd ei farwolaeth fel dynladdiad ar 30 Mai 1986.[17] Ar 19 Mehefin 1986 dyfarnwyd ei farwolaeth yn hunanladdiad tebygol, a phenderfynodd yr FDA ei fod wedi cael y gwenwyn o labordy yr oedd yn gweithio ynddo.[18]
Ymateb Johnson & Johnson
golyguCafodd Johnson & Johnson sylw cadarnhaol am ei ymdriniaeth o'r argyfwng; er enghraifft, dywedodd erthygl yn The Washington Post, "Mae Johnson & Johnson wedi dangos yn effeithiol sut y dylai busnes mawr drin trychineb". Nododd yr erthygl ymhellach ni "wnaeth ymateb y cwmni fwy o ddifrod na'r digwyddiad gwreiddiol", a chymeradwyodd y cwmni am fod yn onest gyda'r cyhoedd.[19] Yn ogystal â chyhoeddi'r adalw, sefydlodd y cwmni gysylltiadau ag Adran Heddlu Chicago, yr FBI, a'r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau. Fel hyn, gallai fod â rhan o chwilio am y troseddwr a gallent helpu i atal ymyrryd pellach.[20] Ar y pryd cwympodd cyfran marchnad y cwmni o 35 y cant i 8 y cant, ond fe adlamodd mewn llai na blwyddyn, a gredydwyd hwn i ymateb prydlon y cwmni. Ym mis Tachwedd, ailgyflwynon nhw'r capsiwlau, ond mewn pecyn newydd, sêl driphlyg, ynghyd â chynigion pris trwm, ac o fewn nifer o flynyddoedd gwnaeth Tylenol adennill cyfran uchaf y farchnad ar gyfer poenliniarwyr dros-y-cownter yn yr Unol Daleithiau.[21]
Newidiadau fferyllol
golyguYsbrydolodd y digwyddiad 1982 i'r diwydiannau fferyllol a bwyd i ddatblygu pecynnu sy'n gwrthsefyll ymyrraeth a dulliau rheoli ansawdd gwell.[5] Ar ben hynny, daeth ymyrraeth cynnyrch yn drosedd ffederal.[22] Arweiniodd y deddfau newydd at farnu Stella Nickell yn euog yn yr achos ymyrryd Excedrin, y cafodd ei dedfrydu i 90 mlynedd yn y carchar.[14]
Yn ogystal, ysgogodd y digwyddiad y diwydiant fferyllol i symud i ffwrdd o gapsiwlau, a oedd yn hawdd eu heintio oherwydd y gallai sylwedd estron gael ei roi y tu mewn heb arwyddion amlwg o ymyrraeth. O fewn blwyddyn, cyflwynodd yr FDA reoliadau llymach er mwyn osgoi ymyrraeth cynhyrchion. Arweiniodd hyn yn y pen draw at ddisodli'r capsiwl gyda'r "caplet" solet, tabled wedi'i gwneud mewn siâp capsiwl, ac ychwanegiad seliau diogelwch sy'n dangos unrhyw ymyrraeth yn amlwg. [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Douglas, John E.; Olshaker, Mark (1999). The Anatomy of Motive – The FBI's Legendary Mindhunter Explores the Key to Understanding and Catching Violent Criminals. New York City: Scribner. tt. 103–104. ISBN 978-0-684-84598-2.
- ↑ "5 Crisis Management Truths from the Tylenol Murders". MissionMode.com. 4 October 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 16, 2016. Cyrchwyd July 19, 2016.
- ↑ Bartz, Scott (2011). The Tylenol Mafia. New Light Publishing. ISBN 978-1466206069.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Markel, Howard (September 29, 2014). "How the Tylenol murders of 1982 changed the way we consume medication". PBS NewsHour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 6, 2017. Cyrchwyd December 6, 2017.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "Case 118: The Chicago Tylenol Murders". Casefile: True Crime Podcast (yn Saesneg). 2019-07-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 12, 2019. Cyrchwyd 2019-07-24.
- ↑ Douglas, 106.
- ↑ Bell, Rachael. "The Tylenol Terrorist". Crime Library. truTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-05.
- ↑ Emsley, John. Molecules of Murder: Criminal Molecular and Classic Cases. Cambridge: Royal Society of Chemistry, 2008, p. 174.
- ↑ Lavoie, Denise (January 11, 2010). "Friend: Tylenol Suspect Submits DNA, Fingerprints". Associated Press (via ABC News). Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 5, 2014. Cyrchwyd November 29, 2014.
- ↑ "Feds Convinced Lewis Was Tylenol Killer". WCVB-TV. February 12, 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 30, 2011. Cyrchwyd May 12, 2009.
- ↑ Fletcher, Dan (February 9, 2009). "A Brief History of the Tylenol Poisonings". TIME. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 20, 2018. Cyrchwyd January 25, 2018.
- ↑ Food and Drug Administration, United States Department of Health and Human Services (November 4, 1998). "Tamper-Evident Packaging Requirements for Over-the-Counter Human Drug Products (Final Rule)". Federal Register 63 (213): 59463–59471. https://www.fda.gov/ohrms/dockets/98fr/110498a.txt. Adalwyd January 25, 2018.
- ↑ Norman, Michael (February 14, 1986). "2D Tainted Bottle of Tylenol Found by Investigators". The New York Times. t. B2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 26, 2018. Cyrchwyd January 25, 2018.
- ↑ 14.0 14.1 Tibbits, George. "Woman Guilty of Killing 2 in Poisoned Excedrin Case". The Boston Globe Nodyn:Subscription required. Seattle, Washington. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 7, 2016. Cyrchwyd May 10, 2012.
- ↑ "Retired Drugs: Failed Blockbusters, Homicidal Tampering, Fatal Oversights". Wired.com. October 1, 2008.
- ↑ "A University of Texas chemistry student whose body was..." UPI (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 26, 2019. Cyrchwyd 2019-07-24.
- ↑ "Cyanide Death Called a Homicide". Chicago Tribune. United Press International. May 30, 1986. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 26, 2019. Cyrchwyd March 26, 2019.
- ↑ "Student's Death by Cyanide Ruled Suicide". Los Angeles Times. 1986-06-19. Cyrchwyd 2020-10-05.
- ↑ Jerry Knight (October 11, 1982). "Tylenol's Maker Shows How to Respond to Crisis". The Washington Post. t. WB1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 22, 2016. Cyrchwyd July 6, 2016.
- ↑ Kaplan, Tamara. "The Tylenol Crisis: How Effective Public Relations Saved Johnson & Johnson". The Pennsylvania State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 6, 2010. Cyrchwyd February 12, 2010.
- ↑ N. R. Kleinfield. "Tylenol's Rapid Comeback". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 16, 2016. Cyrchwyd February 6, 2017.
- ↑ "§ 1365. Tampering with consumer products" (PDF). TITLE 18—CRIMES AND CRIMINAL PROCEDURE. United States Government Printing Office. tt. 343–345. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar January 9, 2015. Cyrchwyd December 4, 2011.