Llyfr Deuteronomium

yr pumed llyfr yn Beibl, cyfansawdd yn 34 pennodau

Llyfr Dewteronomiwm yw pumed lyfr yr Hen Destament a'r olaf yn y Pumlyfr neu Dora. Ei awdur traddodiadol yw Moses. Credir i rannau ohono gael ei gyfansoddi tua'r 7fed ganrif CC. Ei fyrfodd arferol yw 'Deut.'

Wyneb-ddalen Llyfr Dewteronomiwm yn y 'Beibl San Paolo' canoloesol

Mae ar ffurf cyfres o anerchiadau gan Foses at yr Hebreaid yn union cyn iddynt gael mynediad i Wlad yr Addewid (Canaan) ac felly'n cloi'r Pumlyfr, sy'n dechrau gyda chreu a chwymp Adda ac Efa yn Eden a'u gyrru allan o Baradwys.

Ar ôl ailadrodd y Deg Gorchymyn mae Moses yn ymbil ar yr Israeliaid i fyw'n wahanol i'r cenhedloedd eraill o'u cwmpas, ac yn rhoi iddynt gorff o ddeddfau sifil a chrefyddol i'w cadw yng Nghanaan. Mae'n cyhoeddi Josua fel ei olynydd ac yn rhoi tabledi'r Deg Gorchymyn yng ngofal y Lefiaid.

Mae'r llyfr yn cloi gyda chân Moses, ei fendith ar ei bobl, a disgrifiad o'i farwolaeth.