Gwlad yr Addewid
Drama gan Ed Thomas a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Sharon Morgan yw Gwlad yr Addewid a gyhoeddwyd yn 2015 gan Parthian Books. Man cyhoeddi: Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru.[1]
Awdur | Ed Thomas |
---|---|
Cyhoeddwr | Parthian Books |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 29/06/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781910409008 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Drama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a'r freuddwyd Americanaidd. Pan mae'r tad yn gadael am fywyd newydd yng Nghaliffornia, a gwaith glo brig yn agor yn ymyl eu cartref, mae bywyd y teulu yn newid am byth. Addasiad Cymraeg o House of America.
Yn 1988, ysgrifennodd Ed ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddramâu eraill yn cynnwys Flowers of the Dead Red Sea (1991), East From the Gantry (1993), Song From a Forgotten City (1995), Gas Station Angel (1998) a Stone City Blue (2004). Maent wedi teithio'n fyd-eang gan gynnwys Prydain, Ewrop, Awstralia a De America, i theatrau'n cynnwys The Royal Court, Donmar Warehouse a'r Tramway, Glasgow. Maent wedi eu cyfieithu i dros ddeg o ieithoedd.
Ed yw sefydlydd a chyfarwyddwr artistig y Fiction Factory, ac mae wedi gweithio ar Y Gwyll / Hinterland, cyfres dditectif wedi ei chynhyrchu yn Saesneg a'r Gymraeg i S4C a'r BBC, a'i dosbarthu'n rhyngwladol gan All3Media. Dros y ddegawd diwethaf, mae Ed wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu dros gant ac ugain awr o ddrama mewn sawl genre, gan ddenu dros 70 o enwebiadau a gwobrwyon yn cynnwys rhai gan BAFTA Cymru a Prix Europa. Mae ei raglenni wedi'u dosbarthu i dros 80 o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys Satellite City, Silent Village, China, A Mind to Kill, Caerdydd, Pen Talar, Y Pris, Cwmgiedd/Columbia a Gwaith/Cartref. Mae'n byw yng Nghaerdydd.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017