Math o lenyddiaeth ddidactig yw'r llyfr cwrteisi a fu'n boblogaidd yng Ngorllewin Ewrop o'r 13g i'r 18g. Llawlyfr ydyw sydd yn cyfarwyddo llyswyr a boneddigion, gan amlaf, sut i ymddwyn mewn cylchoedd parchus cymdeithas. Byddai hefyd yn mynegi athroniaeth yr awdur ac yn cyflwyno côd egwyddorion ar gyfer bywyd, ymddygiad, a moesau.[1]

Ymhlith yr esiamplau nodedig o lyfrau cwrteisi mae Il Cortegiano (1528) gan Baldassare Castiglione, Il Galateo (1558) gan Giovanni della Casa, La Civil Conversatione (1574) gan Stefano Guazzo, a The Compleat Gentleman (1622) gan Henry Peacham.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Courtesy literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 236.