Baldassare Castiglione
Diplomydd, gŵr llys, a llenor o'r Eidal yn ystod y Dadeni oedd Baldassare Castiglione (6 Rhagfyr 1478 – 2 Chwefror 1529)[1] sy'n enwocaf am ei lyfr cwrteisi Il libro del cortegiano (1528).[2]
Baldassare Castiglione | |
---|---|
Portread o Baldassare Castiglione (1514/15) gan Raffael | |
Ganwyd | 6 Rhagfyr 1478 Marcaria, Casatico |
Bu farw | 8 Chwefror 1529 Toledo |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Milan |
Galwedigaeth | diplomydd, bardd, llenor, hanesydd celf |
Arddull | traethawd, epistolary fiction, elegy |
Mudiad | yr Uchel Ddadeni |
Tad | Cristoforo Castiglione |
Mam | Luigia Gonzaga |
Priod | Ippolita Torelli |
Plant | Camillo Castiglione |
Llinach | House of Castiglione |
Ganwyd yn Casatico yn ardal Mantova i deulu bonheddig. Cafodd ei addysg yn ysgol ddyneiddiol Giorgio Merula a Demetrius Chalcondyles, ac yn llys Ludovico Sforza ym Milan. Dychwelodd i Mantova ym 1499 i weithio i'r ardalydd Francesco Gonzaga, ac ym 1504 fe symudodd i weithio i Guidobaldo da Montefeltro, Dug Urbino. Cafodd ei ddanfon i Rufain ym 1513 fel llysgennad y dug newydd, Francesco Maria della Rovere, ac yn ddiweddarach fe weithiodd i'r pab. Aeth i Sbaen ym 1525 fel llysgennad y pab, ac yno y bu farw yn Toledo.
Ysgrifennodd Il libro del cortegiano yn y cyfnod 1513–18, a chyhoeddwyd y llyfr yn Fenis ym 1528. Ffurf ymgom sydd i'r gwaith, ac ymddangosa cyfeillion yr awdur, gan gynnwys Pietro Bembo, Ludovico da Canossa, Bernardo da Bibbiena, a Gasparo Pallavicino, yn trafod nodweddion y llyswr delfrydol: graslonrwydd, sprezzatura, hwyl, huodledd, ac anrhydedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Guido Rebecchini (2002). Private Collectors in Mantua, 1500-1630. Ed. di Storia e Letteratura. t. 100. ISBN 978-88-8498-049-6.
- ↑ O. Classe; [Anonymus AC02468681] (2000). Encyclopedia of Literary Translation Into English: A-L. Taylor & Francis. t. 234. ISBN 978-1-884964-36-7.