Llyfryddiaeth
Rhestr o lyfrau a/neu erthyglau neu weithiau eraill a ddodir ar ddiwedd llyfr neu fel rhestr ar wahân yw llyfryddiaeth.
Mewn gwaith academaidd neu lyfr safonol mae'r llyfryddiaeth yn rhestru'r gweithiau a ddefnyddiwyd gan yr awdur neu y cyfeiriodd atynt yn ei lyfr. Ceir llyfryddiaethau arbenigol hefyd, e.e. llyfryddiaeth pwnc neilltuol fel astudiaethau Arthuraidd, gweithiau ar gangen o wybodaeth, llyfrau awdur penodol (e.e. llyfryddiaeth Ifor Williams gan Alun Eirug Davies), llyfrau ar hanes cyfnod arbennig, llyfrau Cymraeg (e.e. Llyfryddiaeth y Cymry gan Gwilym Lleyn), llyfryddiaeth llenyddiaeth Gymraeg, a.y.y.b.