William Rowlands

gweinidog Wesleaidd a llyfryddwr
(Ailgyfeiriad o Gwilym Lleyn)

Llyfryddwr a gweinidog oedd William Rowlands (18021865), sy'n fwy adnabyddus dan ei lysenw Gwilym Lleyn. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Llyfryddiaeth y Cymry (1869).

William Rowlands
FfugenwGwilym Lleyn Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Awst 1802, 1802 Edit this on Wikidata
Bryncroes Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata
Am yr addysgwr William Rowland(s) (1887–1979), gweler William Rowland.

Bywgraffiad golygu

Ganed William Rowlands ym Mryncroes yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Aeth yn weinidog gyda'r Wesleiaid a bu'n gwasanethu mewn amryw lefydd o 1831 hyd 1864 pan ymddeolodd.

Treuliodd ddau gyfnod fel golygydd Yr Eurgrawn Wesleaidd (1842-45, 1852-56).

Roedd Rowlands yn gasglwr llyfrau brwd a threuliodd flynyddoedd yn catalogio hen lyfrau Cymraeg (a rhai Saesneg hynafiaethol yn ymwneud â Chymru). Ffrwyth ei lafur oedd y gyfrol swmpus Llyfryddiaeth y Cymry, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, wedi'i golygu gan D. Silvan Evans, yn 1869. Er ei fod yn frith â chamgymeriadau a bylchau mae'n aros yn ffynhonnell werthfawr ar hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg rhwng 1546 a 1800.

Cyfeiriadau golygu