Ymddygiad anonest neu anfoesol gan berson mewn awdurdod gyda'r nod o ennill budd personol neu ar gyfer person arall yw llygredigaeth. Ceir llygredigaeth yn y byd gwleidyddol, busnes, a sefydliadau eraill. Mae nifer o weithgareddau llygredig yn droseddau, gan gynnwys llwgrwobrwyaeth, cribddail, a chamddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol. Mewn rhai gwledydd mae traddodiad defodol o roddi anrhegion, ac o ganlyniad amwys yw'r ffiniau rhwng ymddygiad moesegol a gwobrwyaeth lygredig.[1]

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Llygredd

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) corruption. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ebrill 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.