Llyn Arenig Fawr
llyn cronfa ddŵr, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Arenig Fawr. Saif ychydig i'r de o Lyn Celyn, 405 metr (1329 troedfedd) uwch lefel y môr.
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru, Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9275°N 3.7167°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Mae Nant Aberderfel yn llifo o Lyn Arenig Fawr i Lyn Celyn. Defnyddir y llyn, sydd ag arwynebedd o 84 acer, fel cronfa ddŵr i gyflenwi dŵr i dref y Bala a'r cyffiniau; trowyd y llyn yn gronfa yn 1830. Mae ei ddyfnder yn 127 troedfedd yn y man dyfnaf.
Mae'r llwybr mwyaf poblogaidd i gopa Arenig Fawr yn mynd heibio'r llyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)