Dŵr Cymru

cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng nghymru

Dŵr Cymru (Saesneg: Welsh Water) yw'r cwmni cofrestredig sy'n cyflenwi'r mwyafrif helaeth o ddŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff yng Nghymru, a hefyd i rannau o orllewin Lloegr. Mae'n cael ei reoleiddio dan Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991.

Dŵr Cymru Welsh Water
Math o fusnes
Cwmni cyfyngedig
Diwydiant Gwasanaeth Cyhoeddus
Sefydlwyd 1989
Pencadlys Nelson, Caerffili
Pobl allweddol
Chris Jones
Gweithwyr
3,000
Rhiant-gwmni Glas Cymru Ltd.
www.dwrcymru.com
Mae Glas Cymru yn ailgyfeirio i'r dudalen hon.

HanesGolygu

Sefydlwyd Dŵr Cymru yn 1989 ar ôl i'r gwasanaethau dŵr yng ngwledydd Prydain gael eu preifateiddio. Heddiw mae'n eiddo Glas Cymru, 'cwmni cyfyngedig trwy warant' dielw a sefydlwyd yn unswydd er mwyn prynu a rhedeg Dŵr Cymru. Dydy Glas Cymru ddim yn rhedeg unrhyw gwmni na menter arall.[1]

Bu'r cwmni yn darged i brotestiadau yng Nghymru yn erbyn ei gynllun dadleuol i droi safle Brodordy Llan-faes ar Ynys Môn, lle claddwyd y Dywysoges Siwan yn 1237, yn waith carthffosiaeth. Gwrthododd Cadw gefnogi'r protestiadau a gweithredwyd y cynllun.

Ailenwyd y cwmni yn Hyder yn 1996 ar ôl iddo gymryd drosodd y cwmni trydan SWALEC (yn ne Cymru) a daeth yn gwmni dŵr a thrydan.

Fodd bynnag, in 1999/2000, oherwydd y dreth newydd ar elw cwmnïau iwtiliti ac adolygiad prisiau Ofwat yn 1999, aeth Hyder i drafferthion ariannol a arweiniodd iddo dorri i fyny ar ôl brwydr am ei feddiant. Prynodd Western Power Distribution gwmni Hyder ar y 15fed o Fedi 2000 er mwyn cael ei fusnes dosbarthu trydan, a gwerthwyd asedau eraill Hyder. Gwerthwyd Dŵr Cymru i Glas Cymru am £1, ond gyda £1.85 biliwn o ddyled Hyder hefyd.

ArdalGolygu

Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dŵr i'r rhan fwyaf o Gymru ac eithrio ardal basn dŵr Afon Hafren yng ngogledd Powys, sy'n cael ei wasanaethu gan gwmni dŵr Severn Trent. Dros Glawdd Offa mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dŵr i rannau o Swydd Gaer ac ardal Cilgwri, a hefyd i rannau o Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd, yn enwedig Henffordd ei hun.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Perthynas Glas Cymru a Dŵr Cymru, ar wefan Dŵr Cymru.

Dolenni allanolGolygu